Merlen Gymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Merlyn Cymreig)
Neidio i: llywio, chwilio

Ceir pedwar brîd o ferlod Cymreig (Adran A - D) ac mae eu pedigri wedi'i gofnodi'n eitha manwl gan y Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig sef cymdeithas bridiau cynhenid mwyaf gwledydd Prydain. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1901 a chyhoeddodd gyfrol Welsh Stud Book flwyddyn yn ddiweddarach sy'n cynnwys y manylion bridio hyn mewn pedair Adran o ferlen neu gob Cymreig. Gall y merlod a'r cobiau fod o unrhyw liw ar wahân i frithliw, coch neu wyn.

Y pedair adran yw:

Math Llun Taldra
dyrnfedd (llaw)
Dosbarth arall Disgrifiad
Merlen Mynydd Gymreig WelshPonySectionA.jpg Hyd at 12 Adran A Anifail gwydn, deallus a sionc gyda natur garedig - sy'n eu gwneud yn boblogaidd i'w magu ar gyfer plant. Maent wedi eu bridio dros ganrifoedd ar fynyddoedd garw Cymru.

Ychwaneg o wybodaeth yma.

Merlen Gymreig Welshb shangri-la.JPG Hyd sat 13.2 llaw Adran B Ychydig yn fwy na'r Ferelen Fynydd Gymreig Adran A. Dyma oedd ceffyl teithio'r ffermwr mynydd Cymreig am ganrifoedd, yn enwedig y gyrrwyr gwartheg. Maent yn neidwyr arbennig o dda.
Merlen Gymreig
o Deip y Cob
Welsh-C-Trot.jpg Hyd sat 13.2 llaw Adran C Neidwyr heb eu hail ac yn wych mewn harnais.
Y Cob
Cymreig
WelshPonySectionD.jpg 14 - 15 llaw Adran D Yr anifail marchogaeth a gyrru gorau'n y byd yn ôl Gwyddoniadur Cymru.[1] Maent yn helwyr da ac yn arbennig mewn chwaraeon o bob math oherwydd eu dycnwch a'u hystwythder.

Ychwaneg o wybodaeth yma.

Hanes[golygu]

Bu'r ferlen fynydd Cymreig yn byw yng Nghymru ers o leiaf 1600 CC a bu'r Cob Cymreig yma ers yr Oesoedd Canol.[2] Credir fod y ferlen fynydd yn ddisgynydd i'r ferlen Geltaidd gydag ychydig o waed y ferlen Arabaidd yn ddiweddarach gyda dyfodiad y Rhufeiniaid. Dros y canrifoedd maent wedi'u defnyddio el ceffyl rhyfel, mewn gwaith glo ac ar ffermydd.

Sonia Hywel Dda mewn dogfen o 930 am dair math o ferlod a cheffylau: 1. y crynfarch (palfrey) 2. ystrodur (pack horse neu sumpter) 3. yr Equus Operarius neu'r ceffyl cob tynnu gwedd neu, drol neu gar llysg

Mae'r Mabinogi'n llawn o gyfeiriadaeth i geffylau gan gynnwys y dduwies geffylau ei hun: Rhiannon a cheir cyfeiriadau lu i ferlod Cymreig mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r15fed ganrif ac wedyn. Gorchmynodd Harri VIII, brenin Lloegr ddifa pob stalwyni o dan 15 llaw a chesyg llai nag 13 llaw, gan nad oeddent yn dda i ddim mewn rhyfel. Yn ffodus, dihangoss y merlod Cymreig rhag eu difa oherwydd lleoliad eu cynefin.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; argraffwyd 2008; tu. C150
  2. "Welsh Ponies and Cobs". Horse Breeds of the World. International Museum of the Horse. http://imh.org/horse-breeds-of-the-world/welsh-ponies-and-cobs/. Adalwyd 2010-12-29. 

Dolen allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: