Merlen Gymreig

Oddi ar Wicipedia
Merlen Gymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o geffylau Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMerlyn Cymraeg (Adran B), Merlyn mynydd Cymreig, Merlyn Gymreig o deip y cob, Cob Cymreig, Welsh Part-Bred Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ceir pedwar brîd o ferlod Cymreig (Adran A - D) ac mae eu pedigri wedi'i gofnodi'n eitha manwl gan Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig sef cymdeithas bridiau cynhenid mwyaf gwledydd Prydain. Sefydlwyd y gymdeithas yn 1901 a chyhoeddodd gyfrol Welsh Stud Book flwyddyn yn ddiweddarach sy'n cynnwys y manylion bridio hyn mewn pedair Adran o ferlen neu gob Cymreig. Gall y merlod a'r cobiau fod o unrhyw liw ar wahân i frithliw, coch neu wyn.

Y pedair adran[golygu | golygu cod]

Math Llun Taldra
dyrnfedd (llaw)
Dosbarth Disgrifiad
Merlen mynydd Gymreig Hyd at 12 Adran A Anifail gwydn, deallus a sionc gyda natur garedig - sy'n eu gwneud yn boblogaidd i'w magu ar gyfer plant. Maent wedi eu bridio dros ganrifoedd ar fynyddoedd garw Cymru.
Merlen Gymreig Hyd sat 13.2 llaw Adran B Ychydig yn fwy na'r Ferelen Fynydd Gymreig Adran A. Dyma oedd ceffyl teithio'r ffermwr mynydd Cymreig am ganrifoedd, yn enwedig y gyrwyr gwartheg. Maent yn neidwyr arbennig o dda.
Merlen Gymreig o deip y cob Hyd sat 13.2 llaw Adran C Neidwyr heb eu hail ac yn wych mewn harnais.
Cob Cymreig 14 - 15 llaw Adran D "Yr anifail marchogaeth a gyrru gorau'n y byd" yn ôl Gwyddoniadur Cymru.[1] Maent yn helwyr da ac yn arbennig mewn chwaraeon o bob math oherwydd eu dycnwch a'u hystwythder.

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu'r ferlen fynydd Cymreig yn byw yng Nghymru ers o leiaf 1600 CC a bu'r Cob Cymreig yma ers yr Oesoedd Canol.[2] Credir fod y ferlen fynydd yn ddisgynnydd i'r ferlen Geltaidd gydag ychydig o waed y ferlen Arabaidd yn ddiweddarach gyda dyfodiad y Rhufeiniaid. Dros y canrifoedd maent wedi'u defnyddio el ceffyl rhyfel, mewn gwaith glo ac ar ffermydd.

Sonia Hywel Dda mewn dogfen o 930 am dair math o ferlod a cheffylau: 1. y crynfarch (palfrey) 2. ystrodur (pack horse neu sumpter) 3. yr Equus Operarius neu'r ceffyl cob tynnu gwedd neu, drol neu gar llysg

Mae'r Mabinogi'n llawn o gyfeiriadaeth i geffylau gan gynnwys y dduwies geffylau ei hun: Rhiannon a cheir cyfeiriadau lu i ferlod Cymreig mewn llenyddiaeth Gymraeg o'r15g ac wedyn. Gorchmynodd Harri VIII, brenin Lloegr ddifa pob stalwyni o dan 15 llaw a chesyg llai nag 13 llaw, gan nad oeddent yn dda i ddim mewn rhyfel. Yn ffodus, dihangoss y merlod Cymreig rhag eu difa oherwydd lleoliad eu cynefin.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Yn 1740 fe basiwyd Deddf yn gwahardd ceffylau bychain rhag cymryd rhan mewn rasys ceffylau – oedd yn boblogaidd iawn ymysg byddigion y cyfnod. Prynodd un o deulu Williams-Wynn un o’r ceffylau bach ’ma a’i ollwng o allan ar fryniau Rhiwabon i redeg efo’r ‘ponies’ bach lleol. Roedd hwn yn dipyn o stalwyn ac fe fu’n gyfrifol am wella cymaint ar ansawdd y ceffylau mynydd nes bod ei ddisgynyddion i gyd yn cael eu henwi ar ei ôl. A’i enw? "Merlin". A dyna sut ddaeth ceffylau mynydd i gael ei galw yn ferlynod, merliwns neu merlod.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.150
  2. "Welsh Ponies and Cobs". Horse Breeds of the World. International Museum of the Horse. Cyrchwyd 2010-12-29.