Corgi
Oddi ar Wicipedia
Math o gi yw Corgi sydd yn gynhenid i Gymru. Mae'r enw'n cynnwys dwy elfen sef 'cor' am bach, fel yn corrach, a 'ci', ac un o'r ychydig eiriau Cymraeg sy wedi cael eu mabwysiadu gan y Saesneg.
Mae dau fath sef corgi Sir Benfro a chorgi Sir Aberteifi. Ci byrgoes yw e gyda chot felen gyda gwyn dan yr ên yn aml. Ci gyrru gwartheg oedd y corgi ac a oedd yn ddigon bach a sydyn i sodli'r gwartheg (sef brathu'r sodlau) - er mwyn anfon yr anifeiliad ymlaen, ac maent yn llwyddianus iawn mewn ymrysonau cŵn defaid, ond cŵn anwes yw corgwn gan fwyaf heddiw.