Dafad Bryniau Ceri
Oddi ar Wicipedia
.
Brîd o ddefaid dôf yw defaid Bryniau Ceri (Saesneg: Kerry Hill), sy'n tarddu o ardal pentref Ceri ger Y Drenewydd, Powys. Mae gan defaid Bryniau Ceri batrwm lliw unigryw, gyda wynebau gwyn efo marciau duon o gwmpas y geg, y clustiau a'r llygaid. Mae eu gwlân yn wyn a cheir marciau duon ar y coesau.
Mae'r cyfeiriadau cynharaf at y brîd yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Erbyn heddiw mae diadellau o'r defaid i'w cael ar ffermydd yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a'r Iseldiroedd ond nid yw'n frîd cyffredin. Oherwydd ei brinder bu'r defaid ar restr y Rare Breeds Survival Trust hyd 2006.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) The Kerry Hill Flock Book Society
- (Iseldireg) kerryhill.nl KerryHill.nl