Malltraeth (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Malltraeth, Cwmwd)
Malltraeth
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,741 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAberffraw (cantref) Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlifon, Menai Edit this on Wikidata

Am y pentref o'r un enw gweler Malltraeth (pentref)

Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Malltraeth. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Llifon ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) yn y de. I'r gorllewin roedd yn wynebu'r môr ac Iwerddon.

Mae Afon Cefni yn rhedeg yn araf trwy'r cwmwd gan mor wastad y tir, gan ffurfio Cors Ddyga. Un enw ar dir felly oedd mall ('pwdr, budr'). Felly 'traeth budr, mwdlyd' yw ystyr yr enw.

Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl tref ac amlwd. Ei faenor (prif dref y cwmwd) oedd Aberffraw, safle prif lys hanesyddol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd. Ystîl arferol rheolwyr Gwynedd ym mhob cyfnod oedd "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri".

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Ceid wyth plwyf yn y cwmwd: