Afon Cefni
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Cefni yn un o'r afonydd pwysicaf ar Ynys Môn, gogledd Cymru. Ei hyd yw 16.9 km (11 milltir).
Mae Afon Cefni yn tarddu i'r gogledd o bentref Bodffordd yng nghanol yr ynys, a gerllaw Bodffordd mae'n llifo i mewn i Lyn Cefni, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i gyfeiriad Llangefni, lle mae'n llifo trwy ganol y dref. Mae wedyn yn troi tua'r gorllewin ac yn llifo odditan ffordd yr A55 cyn llifo trwy Gors Ddyga. Ym mhentref Malltraeth mae'n pasio trwy lifddorau yn rhan ogleddol y cob i gyrraedd y môr.
Cafodd y llong hwyliau Afon Cefni, chwaer-long yr Afon Alaw, ei henwi ar ôl yr afon.