Cors Ddyga

Oddi ar Wicipedia
Cors Ddyga
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,359.75 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.216°N 4.333°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Cors yng ngorllewin Ynys Môn yw Cors Ddyga (Saesneg: Tygai's Marsh). Mae wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 1 Ionawr 1957 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 1359.75 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Dwy gors arwahan yw Cors Ddyga a Chors Malltraeth. Mae'r gyntaf yn lygriad o Cors Tygai, ar ôl y sant a roes ei enw i Llandygai.

Mae Cors Ddyga yn ymestyn rhwng ochrau Pentre Berw a Llangaffo, ochr ddwyreiniol i'r Afon Fawr (aber yr Afon Cefni gynt). Mae Cors Malltraeth yn ymestyn o ochrau Trefdraeth, Bodorgan i'r gorllewin o bentref Malltraeth ac yn ymestyn bron hyd at dref Llangefni yng nghanol yr ynys.

Roedd rhyd Aber Malltraeth pan oedd y llanw i mewn yn beryglus iawn ac yn gwneud teithio yn anodd rhwng "Sir Fôn Fawr" a "Sir Fon Fach". Yr hen Afon Cefni oedd y ffin rhwng Cwmwd Rhosyr a Chwmwd Malltraeth sef rhaniad Cantrefi Môn.

Cafwyd deddf i gau y môr a sychu y ddwy gors sef The Enclosure Act of Malltraeth Marsh and Cors Ddyga. Trawsffurfiodd hyn y dirwedd pan adeiladwyd Cob Malltraeth a dechreuodd yr Afon Cefni ymffurfio o'r newydd ynghanol y dyffryn. Sythu yr afon Cefni ei hun, ac adeiladwyd dwy ffôs fawr o'r enw Afon Fain, un bob ochr i'r afon gyda'r diben o sychu'r ddwy gors.

Canlyniad hyn oedd troi'r rhan fwyaf o'r gors yn borfa. Bu cloddio am lo yma am gyfnod. Gyda'r gwaith yn dod i ben ffurfiwyd y llynnau a elwir yn "Llynnau Gwaith-glo".

Mae darn sylweddol o ran ddwyreiniol Cors Ddyga yn awr yn warchodfa adar yn perthyn i'r RSPB, sydd wedi gwneud llawer o waith i adfer cynefin corsiog naturiol yma. Nid yw'r warchodfa ar agor i'r cyhoedd yn swyddogol hyd yma.

Mae llwybrau cyhoeddus a ffordd gyhoeddus Lon Gors a Lon Morfa Mawr yn croesi'r gors, diolch i weledigaeth Donald Glyn Pritchard, ysgrifennydd Cymdeithas Gwarchod Pentre Berw gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Esceifiog, swyddogion Cyngor Sir Ynys Mon a Menter Mon, Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos a Ieuan Wyn Jones AS a AC cafwyd arian o Ewrop i ail wynebu y ffyrdd sef Lon Gwaith Lon Gors Lon Bach a chreu Maes Parcio cyhoeddus i gerddwyr (a'u cwn) a beicwyr i fwynhau distawrydd Cors Ddyga.

Prif ysgogiad y cynllun hwnoedd creu llwybrau gwastad diogel i bobl oedd wedi cael triniaeth calon a chymalau newydd. Mae'r Maes Parcio a'r llwybrau uchod yn cysylltu Lon Las Cefni ac yn hynod o boblogaidd gan bobl yr ynys a'r tir mawr. Agorwyd y Maes Parcio yn gyhoeddus gan blant hynaf Ysgol Esgeifiog a threfnwyd picnic iddynt gan aelodau a chyfeillion y gymdeithas. Noddwyd y dathliad gan Bysiau Gwynfor a D G Pritchard (CGPB.)

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]