Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Logo a man cychwyn y Llwybr yng Ngas-gwent.

Mae Llwybr arfordir De Cymru ac Aber Hafren yn llwybr hir sy'n ymestyn o Gynfig ger Porthcawl i Gas-gwent ar y ffin â Lloegr ac sy'n ymuno gyda Llwybr Clawdd Offa. Mae ei hyd yn 156 km o'r naill ben i'r llall.

Y machlud o Gefn Sidan.

Dyma, efallai'r llwybr mwyaf prysur o'r 8 llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]. Ceir golygfeydd gwych o aber afon Hafren sydd â’r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, sef 49 troedfedd.

Mae'r llwybr yn nadreddu drwy siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. Mae'n cynnwys y trefi a'r dinasoedd canlynol: Y Barri, Bae Caerdydd, Penarth, Casnewydd, Trefynwy a Ccas-gwent.

Is-lwybrau lleol[golygu]

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

Y llwybr ger Penpyrch

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012
  2. "Chepstow Town Council". Town Trail. Cyngor Tref Cas-gwent. http://www.chepstow.co.uk/Core/Chepstow-Town-Council/Pages/Town_Trail_3.aspx. Adalwyd 13 Awst 2013.