High School Musical

Oddi ar Wicipedia
High School Musical

Poster hyrwyddiad
Cyfarwyddwr Kenny Ortega
Cynhyrchydd Don Schain
Ysgrifennwr Peter Barsocchini
Serennu Zac Efron
Vanessa Hudgens
Ashley Tisdale
Lucas Grabeel
Corbin Bleu
Monique Coleman
Cerddoriaeth David Lawrence
Matthew Gerrard
Greg Cham
Ray Cham
Andy Dodd
Faye Greenberg
Jamie Houston
Adam Watts
Drew Lane
Eddie Galan
Andrew Seeley
Sinematograffeg Gordon Lonsdale
Golygydd Seth Flaum
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Disney Channel
Dyddiad rhyddhau 20 Ionawr 2006
Amser rhedeg 97 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Olynydd High School Musical 2
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae High School Musical yn ffilm deledu Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Emmy. Dyma oeddd y ffilm gyntaf yn y gyfres High School Musical. Pan ryddhawyd y ffilm ar yr 20fed o Ionawr, 2006 dyma oedd y ffilm mwyaf llwyddiannus i'r Disney Channel ei chreu erioed [1], gyda'r ffilm olynnol, High School Musical 2 yn cael ei rhyddhau yn 2007. Rhyddhawyd y ffilm lawn gyntaf High School Musical 3: Senior Year mewn sinemau ym mis Hydref 2008. Dyma oedd ffilm wreiddiol gyntaf Disney i gael ei rhyddhau mewn sinemau. Cyhoeddwyd y bydd High School Musical 4, ac mae hyn yn y broses o gael ei ysgrifennu[2]. Trac sain y ffilm oedd yr albwm a werthodd fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2006.[3]

High School Musical oedd y ffilm Disney a wyliwyd fwyaf yn ystod 2006, gyda 7.7. miliwn o wylwyr yn gwylio'r darllediad cyntaf yn yr Unol Daleithiau.[4] Yn y Deyrnas Unedig, gwyliwyd y ffilm gan 789,000 o wylwyr, gan wneud y ffilm y rhaglen a wyliwyd fwyaf ar y Disney Channel (DU) yn 2006. Ar y 29ain o Ragfyr, 2006, High School Musical oedd y ffilm Disney Channel gyntaf i gael ei darlledu ar y BBC.

Gyda phlot sydd wedi cael ei gymharu gan yr awdur a nifer o feiriniaid fel addasiad gyfoes o Romeo a Juliet,[5] mae High School Musical yn adrodd hanes dau ddisgybl ysgol uwchradd o grŵpiau gwahanol - Troy Bolton (Zac Efron), capten y tîm pêl fasged, a Gabriella Montez (Vanessa Hudgens), myfyrwraig brydferth ond swil sy'n rhagori mewn mathemateg a gwyddoniaeth.[6] Mae'r ddau yn ceisio am y prif rannau yn sioe gerdd eu hysgol, ac o ganlyniad, rhannir eu hysgol yn ddau. Er gwaethaf ymdrechion myfyrwyr eraill i ddifetha'u breuddwydion cerddorol, llwydda Troy a Gabriella i wrthsefyll y pwysau wrth gyfoedion, gan ysbrydoli pobl eraill i beidio a "stick to the status quo" yn y broses.

Ffilmiwyd High School Musical yn East High School yn Salt Lake City, Utah, yn awditoriwm Murray High School, ac yng Nghanol Dinas Salt Lake City. Defnyddiwyd Murray High School fel set ar gyfer nifer o gynhyrchiadau eraill Disney: Take Down (1978), Read It and Weep (2006), Minutemen (2008) a High School Musical: Get in the Picture (2008).[7]

Cast

  • Troy Bolton (Zac Efron) yw prif gymeriad gwrywaidd y ffilm. Ef yw myfyriwr mwyaf poblogaidd yn East High School, ac mae'n gapten ar y tîm pêl fasged. Ar gyfer y ffilm hon, plethwyd canu Efron gyda llais y canwr Andrew Seeley.
  • Gabriella Montez (Vanessa Hudgens) yw prif gymeriad benywaidd y ffilm.
  • Sharpay Evans (Ashley Tisdale) yw merch ddrwg y ffilm.
  • Ryan Evans (Lucas Grabeel) yw efaill Sharpay.
  • Chad Danforth (Corbin Bleu) yw ffrind gorau Troy, ac mae'n ffrindiau da iawn gyda Jason a Zeke.
  • Taylor McKessie (Monique Coleman) yw ffrind gorau Gabriella. Mae hi hefyd yn ffrindiau gyda Kelsi Nielsen a Martha Cox. MAe'n gapten ar dîm decathlon yr ysgol hefyd.
  • Jack Bolton (Bart Johnson) yw tad Troy.
  • Ms. Darbus (Alyson Reed) yw'r athrawes ddrama llym yn East High.
  • Kelsi Nielsen (Olesya Rulin) sy'n fyfyrwraig yn East High. Gall ganu'r piano ac mae'n cyfansoddi.
  • Zeke Baylor (Chris Warren Jr.) sy'n ffrindiau gyda Troy a Chad, a chwaraea i'r tîm pêl fasged. Mae ef hefyd yn mwynhau pobi.

Y Caneuon

Rhyddhawyd y trac sain ar y 10fed o Ionawr, 2006 ac aeth i rif 133 ar Siart y Billboard 200, gan werthu 7,469 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Yn nhrydedd wythnos yr albwm, dringodd i rif deg ac yna i rif un (ar y 1af a'r 22ain o Fawrth). Gwerthwyd 3.8 miliwn o gopïau erbyn mis Awst 2006.

Cân Cenir yn bennaf gan Cantorion Eraill Golygfa
Start Of Something New Troy and Gabriella Dim Canolfan Wyliau Sgïo
Get'cha Head in the Game Troy Chwaraewyr pêl fasged Campfa East High
What I've Been Looking For Ryan and Sharpay Dim Awditoriwm East High
What I've Been Looking For (Reprise) Troy and Gabriella Dim Awditoriwm East High
Stick To The Status Quo Zeke, Martha, Skater Dude, Sharpay, Ryan Jocks, Brainiacs, Skater Dudes, Wildcats Caffi East High
When There Was Me And You Gabriella Dim Labordy a Coridorau East High
Bop To The Top Ryan and Sharpay Dim Awditoriwm East High
Breaking Free Troy and Gabriella Dim Awditoriwm East High
We're All In This Together Troy, Gabriella, Ryan, Sharpay Wildcats Campfa East High

Gwobrau

Blwyddyn Gwobr Categori Canlyniad
2006
Gwobr Cerddorol Billboard Albwm Trac Sain y Flwyddyn Enillwyd
Gwobr Emmy Coreograffeg Eithriadol
Gwobrau Teen Choice Teledu - Seren Breakout Choice
(Zac Efron)
Teledu - Perthynas Ar-sgrîn Orau Choice
(Vanessa Hudgens & Zac Efron)
Gwobr Cymdeithas Beirniaid Teledu Cyflawniad Eithriadol yn Rhaglenni Plant
Gwobrau Cerddorol Americanaidd Albwm Pop Gorau Enwebwyd
Gwobr Cerddorol Billboard Albwm y Flwyddyn
Gwobr Emmy Castio Eithriadol am Gyfres Fer, Ffilm neu Raglen Arbennig
Cyfarwyddo Eithriadol am Gyfres Fer, Ffilm neu Ddrama Arbennig
Cerddoriaeth a Geiriau Gwreiddiol Eithriadol
("Get'cha Head in the Game")
Cerddoriaeth a Geiriau Gwreiddiol Eithriadol
("Breaking Free")

Cyfeiriadau

  1. FamilyEducation.com Adalwyd 07-03-2009
  2. Playbill.com Adam Hetrick 09-04-2008 Adalwyd 07-03-2009
  3. Top 10 Best Selling Albums of 2006 - about.com
  4. Gwefan USAtoday.com Adalwyd 07-03-2009
  5. High School Musical on Tour Adalwyd 07-03-2009
  6. [1] Adalwyd 07-03-2009
  7. Disney moment for Murray, Highland Toomer-Cook, Jennifer. 03-09-2007 Adalwyd 07-03-2009

Dolenni allanol