High School Musical 2
![]() Poster hyrwyddiad |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Kenny Ortega |
| Cynhyrchydd | Kenny Ortega Bill Borden |
| Ysgrifennwr | Peter Barsocchini |
| Serennu | Zac Efron Vanessa Hudgens Ashley Tisdale Lucas Grabeel Corbin Bleu Monique Coleman |
| Cerddoriaeth | David Lawrence Matthew Gerrard Randy Peterson Andy Dodd Faye Greenberg Jamie Houston Adam Watts Antonnia Armato Andy Dodd Kevin Quinn Robbie Nevil Shankar Mahadevan |
| Sinematograffeg | Gordon Lonsdale |
| Golygydd | Seth Flaum |
| Cwmni Cynhyrchu | Disney Channel |
| Dyddiad rhyddhau | 17 Awst 2007 |
| Amser rhedeg | 104 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Rhagflaenydd | High School Musical |
| Olynydd | High School Musical 3: Senior Year |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm deledu Disney yw High School Musical 2 sy'n serennu Zac Efron a Vanessa Hudgens. Dyma'r ail ffilm yn y gyfres a chafodd ei noson agoriadol yn Disneyland, Anaheim, Califfornia ar yr 17eg o Awst, 2007. Mynychodd y prf gast y digwyddiad. Dangoswyd y ffilm ar y teledu am y tro cyntaf ar yr un noson, ar y Disney Channel yn yr Unol Daleithiau ac ar y sianel Family yng Nghanada.
Yn y ffilm, mae cymeriad Troy Bolton yn poeni ynglyn a chael swydd, am fod pris mynd i'r coleg yn pwyso'n drwm ar ei feddwl, yn ogystal â cheisio sicrhau y bydd ef a'i gariad Gabriella Montez yn medru bod yng nghwmni ei gilydd dros wyliau'r Haf.
Gwelwyd y noson agoriadol gan gyfanswm o 17.3 miliwn o wylwyr yn yr Unol Daleithiau - 10 miliwn yn fwy na'r ffilm flaenorol - gan wneud y ffilm y ffilm Disney Channel mwyaf poblogaidd bryd hynny.
Cast
- Troy Bolton (Zac Efron) yw prif gymeriad gwrywaidd y ffilm. Ef yw'r myfyriwr mwyaf poblogaidd yn East High School, ac mae'n gapten ar y tîm pêl fasged. Yn y ffilm hon, canodd Efron ei holl ganeuon, lle roedd ei lais ef wedi'i blethu â llais Andrew Seely yn y ffilm gyntaf High School Musical.
- Gabriella Montez (Vanessa Hudgens) yw prif gymeriad benywaidd y ffilm.
- Sharpay Evans (Ashley Tisdale) yw merch ddrwg y ffilm.
- Ryan Evans (Lucas Grabeel) yw efaill Sharpay.
- Chad Danforth (Corbin Bleu) yw ffrind gorau Troy ac mae'n ffrindiau da gyda Jason a Zeke.
- Taylor McKessie (Monique Coleman)yw ffrind gorau Gabriella. Mae hi hefyd yn ffrindiau gyda Kelsi Nielsen a Martha Cox, ac mae'n canlyn gyda Chad. Hi yw capten y tîm Decathlon yn yr ysgol. Mae ganddi swydd haf yn Lava Springs fel Cydlynydd Gweithgareddau. Mae'n medru gweld gwir gymeriad Sharpay, a thuedda o fod yn sinigaidd pan yn trafod bechgyn.
- Mr. Thomas Fulton (Mark L. Taylor) yw rheolwr Lava Springs.
- Jack Bolton (Bart Johnson) yw tad Troy.
- Mr. Vance Evans (Robert Curtis Brown) yw tad Ryan a Sharpay.
- Mrs. Darby Evans (Jessica Tuck) yw mam Ryan a Sharpay, a Llywydd Pwyllgor Lava Springs.
- Ms. Darbus (Alyson Reed) yw'r athrawes ddrama llym yn East High.
- Kelsi Nielsen (Olesya Rulin) sy'n fyfyrwraig yn East High. Mae'n medru canu'r piano ac mae'n cyfansoddi.
- Zeke Baylor (Chris Warren Jr.) sy'n ffrindiau â Troy a Chad, a chwaraea i'r tîm pêl fasged.
- Jason Cross (Ryne Sanborn) sy'n ffrindiau â Troy, Chad, a Zeke a chwaraea ar y tîm pêl fasged.
- Martha Cox (Kaycee Stroh) sy'n fyfyrwraig yn East High. Mae'n ffrindiau â Gabriella, Kelsi, a Taylor.
- Jackie (Tanya Chisholm) yw un o ffrindiau Sharpay (h.y. Y Sharpettes).
- Lea (Kelli Baker), Sharpette arall.
- Emma (McCall Clark), Sharpette arall.
- Mrs. Lucille Bolton (Leslie Wing Pomeroy) yw mam Troy a gwraig Mr. Bolton.
Y Caneuon
| Cân | Cenir yn bennaf gan | Cantorion Eraill | Golygfa |
|---|---|---|---|
| What Time Is It | Troy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, Taylor | Wildcats | Ystafell ddosbarth, Coridoraum Caffi |
| What Time Is It (Pt. 2) | Troy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, Taylor | Wildcats | Tir Ysgol East High |
| Fabulous | Sharpay and Ryan | Sharpettes | Pwll Lava Springs |
| Work This Out | Troy, Gabriella, Chad, Taylor, Kelsi, Zeke, Martha, Jason | Wildcats a Gweithwyr y Gegin | Cegin Lava Springs |
| You Are The Music In Me | Troy a Gabriella | Kelsi and Wildcats | Ystafell Fwyta Lava Springs |
| Humuhumunukunukuapua'a | Sharpay a Ryan | Sharpettes | Cefn llwyfan Lava Springs |
| I Don't Dance | Chad a Ryan | Baseball Players, Wildcats, a Chwmni | Cae Pêl Fâs Lava Springs |
| You Are The Music In Me (Fersiwn Sharpay) | Sharpay | Troy a Sharpettes | Llwyfan Lava Springs |
| Gotta Go My Own Way | Troy a Gabriella | Dim | Pwll Lava Springs, Ystafelloedd Newid, Tir |
| Bet On It | Troy | Dim | Cwrs Golff Lava Springs |
| Everyday | Troy and Gabriella | Wildcats and Company | Lava Springs Stage |
| All For One | Troy, Gabriella, Sharpay, Ryan, Chad, Taylor | Kelsi, Zeke, Martha, Jason, Wildcats, Cwmni | Pwll Lava Springs |
