Geraint Lloyd Owen
Geraint Lloyd Owen | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1941 Sarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, cyhoeddwr |
Bardd Cymraeg yw Geraint Lloyd Owen (ganwyd 15 Mai 1941),[1] a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. Mae'n gyn-brifathro ac yn frawd i'r bardd Gerallt Lloyd Owen. Mae'n enedigol o'r Sarnau, ger y Bala.
Yng Ngorffennaf 2015 cyhoeddwyd mai Geraint fyddai Archdderwydd Cymru am y cyfnod 2016-19, gan ddilyn Christine James.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Cafodd ei eni mewn ffermdy rhwng Llandderfel a'r Sarnau, Meirionnydd, cyn symud i hen gartref ei fam ym mhentre'r Sarnau. Aeth i'r ysgol leol ac yna i Ysgol Tŷ-tan-domen, Y Bala ac yna i Goleg yr Heath, Caerdydd, lle cafodd ei hyfforddi fel athro. Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Machynlleth. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys cadeiriau Pontrhydfendigaid, Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Fawr Aberteifi, Powys a'r Urdd. Bu'n bennaeth Ysgol y Ffôr, Pwllheli, ac Ysgol Treferthyr, Cricieth, cyn iddo ymddeol yn gynnar er mwyn rhedeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon. Mae'n Bennaeth Cyhoeddi i Wasg y Bwthyn.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 am ddilyniant o gerddi ar y testun 'Gwythiennau', a dywedodd un o'r beirniaid, Gwyn Thomas, wrth draddodi'r feirniadaeth bod y cerddi hyn "... yn rymus iawn, yn fedrus iawn, yn eglur ac yn dra diddorol."
Cyfnod fel Archdderwydd[golygu | golygu cod]
Wrth arwain seremoniau'r Brifwyl, roedd ganddo arddull ysgafnach na rhai o'i ragflaenwyr gan arwain at feirniadaeth ohono ar y cyfryngau cymdeithasol, er fod eraill yn mwynhau yr arddull hwyliog.[2][3][4][5][6] Yn ystod seremoni'r Coroni yn Eisteddfod Caerdydd 2018 gwnaeth sylw dadleuol gan ddweud am yr enillydd, Catrin Dafydd, "Fasa hi ddim yn gallu gwneud dim byd heb y dynion 'da chi'n gweld, ynde", yn cyfeirio at y gefnogaeth roedd wedi cael gan ei chariad. Yn dilyn beirniadaeth o'r sylw fe ymddiheurodd y diwrnod wedyn.[7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Manylion Cyfarwyddwr Gwasg Y Bwthyn.
- ↑ Miriam Elin Jones (8 Awst 2016). Eisteddfod Sir Fynwy 2016. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
- ↑ Twitter - Esyllt Mair
- ↑ Twitter - Dafgog
- ↑ Twitter - Nia Goode
- ↑ Twitter - Gwallt brown
- ↑ Geraint Lloyd Owen yn ymddiheuro am sylwadau y Coroni , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2018. Cyrchwyd ar 12 Awst 2018.