François Jaffrennou (Taldir)

Oddi ar Wicipedia
François Jaffrennou
FfugenwTaldir, Taldir Ab Hernin Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Mawrth 1879 Edit this on Wikidata
Karnoed Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1956 Edit this on Wikidata
Bergerac Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBreton Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Rennes Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ2859295, Goursez Vreizh Edit this on Wikidata
TadClaude Jaffrennou Edit this on Wikidata
MamAnna Ropars Edit this on Wikidata
PlantGildas Jaffrennou Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Ganed y bardd, awdur a golygydd François-Joseph-Claude Jaffrennou (15 Mawrth 187923 Mawrth 1956), a adnabyddir fel Taldir, yn Karnoed, Llydaw, yn fab i gyfreithiwr. Daeth Taldir yn oedolyn pan oedd holl-Geltigiaeth a rhanbarthiaeth Ffrengig ar eu hanterth. Anodd gorbwysleisio pwysigrwydd perthynas Taldir â Chymru, rhywbeth a adlewyrchir yn ei gyhoeddiadau a’i ohebiaeth. Dysgodd Gymraeg yn rhugl, bu ar sawl ymweliad â Chymru, roedd yn un o sylfaenwyr Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw), a bu’n Drouiz-Meur (Archdderwydd) o 1933 i 1955.

Yn ddyn ifanc cyhoeddodd Taldir saith casgliad o gerddi a chaneuon Llydaweg rhwng 1899 ac 1911. Cafodd lwyddiant yn Llydaw a daeth yn enw cyfarwydd yng Nghymru hefyd trwy ei ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1899, ble derbyniwyd i’r Orsedd, ei erthyglau yng nghylchgronnau O.M. Edwards Cymru (cylchgrawn) a Cymru'r Plant, a thrwy gyfieithiadau Cymraeg T. Gwynn Jones o’i gerddi. Cyhoeddodd gyfrol ddwyieithog (Llydaweg a Chymraeg) o gerddi gyda’i athro Cymraeg Frañsez Vallée (Abhervé) yn dilyn ymweliad y ddau â Chymru yn 1899; mae nifer o’r cerddi yn Gwerziou gant Abhervé ha Taldir yn disgrifio neu wedi eu cyflwyno i Gymry oedd wedi chwarae rhan amlwg yn yr Eisteddfod, fel Rowland Williams (Hwfa Môn), Edward Thomas (Cochfarf), a’r Tad Hayde (Offeiriad Catholig yn Eglwys Sant Pedr, Caerdydd). [1] Yn dilyn yr Eisteddfod, aeth Taldir i Flaenau Ffestiniog i aros gyda rhieni ei gyfaill o Baris yr artist John ‘Kelt’ Edwards, Pwyntil Meirion. Adrodda mewn taithysgrif Gymraeg fod trigolion Blaenau Ffestiniog yn chwerthin am ei drowsus mawr Llydewig – y bragou-braz enwog – ond nad yw’n dal dig, a dywed am bobl Gogledd Cymru: ‘y maent yn gyfeillion i bob un a fedr siarad Cymraeg, ac yn hoff iawn o’u brodyr o Lydaw’, [2] Yn haf 1900 aeth John ‘Kelt’ Edwards â Thaldir i swyddfa Yr Herald Cymraeg ble cwrddodd â T. Gwynn Jones. [3] Cyfieithodd Gwynn nifer o gerddi Taldir i’r Gymraeg. Cynhwysodd rai yn Gwlad y Gân a Chaniadau Eraill (1902), a’r flwyddyn ddilynol cyhoeddwyd ym Mharis saith ohonynt yn y casgliad Barzaz Taldir/ Les Poèmes de Taldir. [4]

Cyhoeddodd Taldir hefyd ysgrifau yn Ffrangeg a Llydaweg yn disgrifio ei gyfnod yng Nghymru.[5]

Flwyddyn ar ôl yr ymweliad â Chaerdydd, ffurfiwyd Goursez Vreizh (Gorsedd Llydaw) ym Medi 1900. Y mae ganddi hyd heddiw berthynas agos gyda’i chwaer-sefydliad yng Nghymru.[6]


Cyfieithodd Taldir Hen Wlad fy Nhadau i’r Llydaweg yn 1897, i gerddoriaeth James James Pontypridd. Cynhwysir y gerdd yn Barzaz Taldir/ Les Poèmes de Taldir (1903), ac fe ddewisiwyd Bro Gozh ma Zadoù fel anthem Llydaw yn 1903 yn dilyn ei mabwysiadu gan yr Union régionaliste bretonne. Dylid nodi i’r Parchedig William Jenkyn Jones, cenhadwr Protestanaidd yn Llydaw, gyfieithu’r anthem hefyd yn 1895.

Chwaraeodd Taldir ran allweddol yn y mudiad Llydewig, trwy ei waith fel golygydd, newyddiadurwr, gwleidydd a Drouiz-Meur (Archdderwydd). Arestiwyd Taldir ar 7 Awst 1944, ac eto ar 10 Awst 1944, ar gyhuddiad o fod wedi gwasanaethu’r gelyn yn yr Ail Ryfel Byd, ac o fod eisiau Llydaw annibynnol mewn Ewrop Hitleraidd. Fe’i carcharwyd tan 1946, ac yna bu’n byw’n alltud yn Le Mans ac wedyn Bergerac. Tynnodd ei achos sylw yng Nghymru, a derbyniodd gefnogaeth gan y rhwydwaith gorseddol. [7]

Archifau[golygu | golygu cod]

Cedwir hanner papurau Taldir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gweler yma). Fel yr esbonia Gwyn Griffiths yn Crwydro Llydaw, dywedodd ei fab, Gildas Jaffrennou: ‘Pan oedd fy nhad yn fyw yr oedd eisoes wedi cyflwyno cyfran sylweddol o lyfrau a llawysgrifau i Adran Archifau Finistère yn Kemper. Ond mae gennyf rewm da dros gredu nad ydynt ar gael i ddarllenwyr Llydaweg. Am ddeunaw mlynedd, bellach, buont mewn selar, yn y blychau o hyd, wedi eu gwastraffu’n llwyr. Petawn wedi rhoi gweddill llyfrgell fy nhad i’r awdurdodau Ffrengig, yr un fuasai ei thynged, gan mai eu polisi yw peidio â hyrwyddo astudiaethau Llydewig. Felly, yr unig ddewis oedd gennyf oedd cyflwyno’r llyfrau gwerthfawr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a ystyrid yn feca’r diwylliant Celtaidd. O wneud hynny, rwy’n siwr i mi weithredu’n unol â dymuniadau fy nhad. Yr ydym ni Lydawiaid yn teimlo ein bod yn dychwelyd at ein gwreiddiau, neu ffynhonnell ein diwylliant, pan feddyliwn am Gymru. Y Cymry yw cynheiliaid naturiol yr hyn sy’n weddill o’r iaith Geltaidd. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fe gaiff y llyfrau gwerthfawr hyn bob gofal, a byddant ar gael i ysgolheigion Celtaidd’.

Cedwir hanner arall papurau Taldir yn archifdy Penn-ar-bed/ Finistère yn nhref Kemper/ Quimper. Meddai Ceridwen Lloyd-Morgan am y casgliad hwn: ‘I’r Cymry, yn enwedig i’r rhai sydd yn ymddiddori yn hanes diwylliannol ddiwedd oes Fictoria a blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, mae cyfoeth yn eu disgwyl yn archifdy Penn ar bed/Finistère yn nhref Kemper/Quimper’ https://dreamcollex.hypotheses.org/271

Cyhoeddiadau dethol[golygu | golygu cod]

An Hirvoudou: gwerziou ha soniou / dibabet gand an Aotrou Jaffrennou (Sant-Briek: R. Prud’homme, 1899)

Gwerziou gant Abhervé ha Taldir (brezoneg ha kemraeg kenver-ouz-kenver), Er coffadwriaeth am eu taith yng Nghymru (Sant-Brieg, F. Guyou, 1899).

An Delen Dir (La Harpe d’acier): avec portrait de l’auteur, dessins et illustrations de MM. John Edwards et Émile Hamonic (Saint-Brieuc: René Prudhomme, 1900)

Barzaz/Les poèmes de Taldir ab Herninn, préfaces d’Anatole Le Braz et Charles Le Goffic; traductions en vers français de H. de La Guichardière, Yves Berthou et Le Garrec; en vers gallois de Thomas Gwynn Jones; en languedocien de Cavalier; en écossais et en anglais de Miss Carmichael et Fournier d’Albe, second edition (Paris: Champion, 1903)

‘Tro yng Ngogledd Cymru’, Cymru, 17 (1899), pp. 221–24

‘Llanberis a Beddgelert. Fel y gwelodd Llydawr Hwynt’, Cymru, 18 (1899), p. 41

La Genèse d’un mouvement: articles, doctrines et discours 1898–1911 (Carhaix: Imprimerie-Librairie du Peuple, 1912)

Eur wech e oa (Morlaix: Armorica, 1944)

Erthyglau yn Cymru’r Plant.

Oriel[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. Gwynfor Jones, Y Ganrif Gyntaf (1987), t. 17.
  2. Cymru 17 (1899), t. 222.
  3. Jones David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Gwasg Gee, 1973), t. 118.
  4. T Gwynn Jones David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Gwasg Gee, 1973), t. 118
  5. Kathryn Jones, Carol Tully a Heather Williams, Hidden Texts, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in Travel Writing in French and German (1780-2018) (Liverpool: Liverpool University Press, 2020).
  6. Geraint a Zonia Bowen, Hanes Gorsedd y Beirdd (Swansea: Barddas, 1991)
  7. Erwan Chartier-Le Floch, L’Histoire de l’interceltisme en Bretagne (Spézet: Coop Breizh, 2013), t. 277-78.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]