Edward Thomas (Cochfarf)

Oddi ar Wicipedia
Edward Thomas
Ganwyd9 Mawrth 1853 Edit this on Wikidata
Betws Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1912 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwaith y saer, gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
PriodHannah Hughes Edit this on Wikidata

Dyn busnes a gwleidydd yng Nghaerdydd oedd Edward Thomas, a adnabyddir yn gyffredin fel Cochfarf. Roedd yn ddirwestwr ac yn berchennog ar sawl tafarn goffi a gwesty.[1] Roedd yn un o brif sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd yn 1885,[2] yn rhan o bwyllgor trefnu Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899, ac fe'i etholwyd yn Faer Caerdydd ym 1902. Ymddiddorai yn Llydaw, derbynniau gylchgronnau a newyddion o Lydaw ac ymwelodd â Llydaw fwy nag unwaith. Dywed John Gwynfor Jones amdano ei fod yn 'esiampl hynod o'r Cymro diwylliedig na chawsai fawr o addysg ffurfiol ond a fagwyd mewn bro lle rhoddwyd gwerth ar y traddodiadau Cymraeg'.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "THOMAS, EDWARD ('Cochfarf '; 1853 - 1912) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-22.
  2. Jones, John Gwynfor (1987). "Edward Thomas (Cochfarf)". Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru: 26-45.
  3. Jones, John Gwynfor (1987). Y Ganrif Gyntaf. Caerdydd: Cymrodorion Caerdydd. t. 4.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.