Goursez Vreizh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gorsedd genedlaethol Llydaw yw Goursez Vreizh (Llydaweg: "Gorsedd Llydaw"). Mae'n syefydliad diwylliannol sy'n cyfateb i Orsedd Beirdd Ynys Prydain yng Nghymru a Gorseth Kernow yng Nghernyw ac sy'n cydweithredu â'r gorseddau hynny.

Hanes[golygu]

Gorsedd Llydaw yn 1906

Théodore Hersart de la Villemarqué (1815-1895) oedd y Llydawr cyntaf i gael ei wneud yn aelod o Orsedd y Beirdd yng Nghymru, diolch i'w gyfeillgarwch â Carnhuanawc. Cymerodd yr enw barddol 'Hersaty Kervaker'. Ar ôl dychwelyd i Lydaw, sefydlodd Breuriez-Breiz (Brawdolaeth Beirdd Llydaw) ond nid arweiniodd hyn at greu Gorsedd yno.

Dyma'r prif gamrau yn hanes Gorsedd Llydaw:

  • 1843 (neu 1857): mae Villemarqué yn sefydlu'r Breuriez-Breiz, ond mae gweithgareddau'r Frawdoliaeth yn gyfyngedig i ysgolheictod ac ieithyddiaeth.
  • 1867: mae cynrychiolwyr o Orsedd y Beirdd yn mynychu'r Gynhadledd Geltaidd.
  • 16 Awst 1898: sefydlu l’Union régionaliste bretonne (URB: 'Undeb rhanbarthol Llydaw).
  • 1899: 20 o Lydawyr yn cael eu gwahodd gan Orsedd y Beirdd (Cymru) i ffurffio cnewyllyn grŵp yn Llydaw (rhoddir iddynt 'Gleddyf Arthur'). Cawsant eu urddo'n ofyddion, ond heb fod yn aelodau llawn o'r urdd.
  • 1 Medi 1900: mae cynulliad i sefydlu gorsedd yn Llydaw yn cyfarfod yn la Veuve Le Falc’her a Guingamp. Daw Jean Fustec (dan yr enw barddol 'Yann ab Gwilherm'; 'Lemenik' yn nes ymlaen) yn cael ei urddo'n archdderwydd cyntaf "Gorsedd Llydaw".
  • 23 Tachwedd 1908: Cyhoeddiad swyddogol 'Gorsedd Barzed Gourenez Breiz Izel' (Gorsedd Beirdd Gorynys Llydaw).

Yr enw llawn cyfredol ar yr orsedd heddiw yw Breudeuriezh Drouized, Barzhed hag Ovizion Breizh (Brawdoliaeth Derwyddon, Beirdd ac Ofyddion Llydaw).

Archderwyddon Llydaw[golygu]

Darllen pellach[golygu]

  • Philippe Le Stum, Le Néo-druidisme en Bretagne - Origine, naissance et développement, Éditions Ouest-France, coll. « De mémoire d'Homme : L'Histoire », Rennes, 1998, ISBN 2-7373-2281-2.

Dolenni allanol[golygu]