Yr Herald Cymraeg
Oddi ar Wicipedia
Newyddiadur Cymraeg wythnosol yw Yr Herald Cymraeg, hefyd Yr Herald Gymraeg neu Yr Herald. Sefydlwyd y papur yng Nghaernarfon yn 1855, gan James Rees. Yn 1937, unwyd y papur a'r Genedl Gymreig, dan yr enw Yr Herald Cymraeg a'r Genedl.
Bu Daniel Rees yn olygydd yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif, yna bu Robert John Rowlands (Meuryn) yn olygydd o 1921 hyd 1954. Bu nifer o lenorion enwog yn gweithio i'r Herald, yn eu plith T. Gwynn Jones, Edward Prosser Rhys, Caradog Prichard, Gwilym R. Jones a John Roberts Williams.
Mae'r Herald yn awr yn ymddangos fel atodiad bob dydd Mercher yn y Daily Post. Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Rhys Mwyn, Angharad Tomos a Bethan Gwanas.