Robert John Rowlands (Meuryn)

Oddi ar Wicipedia
Robert John Rowlands
FfugenwMeuryn Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Mai 1880 Edit this on Wikidata
Abergwyngregyn Edit this on Wikidata
Bu farw2 Tachwedd 1967 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PlantEurys Ionor Rowlands Edit this on Wikidata

Bardd, nofelydd, awdur plant a newyddiadurwr o Gymro oedd Robert John Rowlands (20 Mai 18802 Tachwedd 1967), a oedd yn adnabyddus fel awdur dan ei enw barddol Meuryn. Roedd yn arloeswr ym myd llenyddiaeth Gymraeg i blant.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Clawr Y Barcud Olaf (1944) gyda darlun gan Moss Williams.

Ganed R. J. Rowlands yn Abergwyngregin, ger Bangor, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw) ar 20 Mai 1880 yn fab i William a Mary Rowlands. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Aber. Dechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr yn 1901 dan Isaac Foulkes ar staff Y Cymro (yn Lerpwl y pryd hynny) cyn dychwelyd i Gymru a chael swydd golygydd ar Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1921. Arosodd yno am 33 o flynyddoedd hyd ei ymddeol yn 1954.[1]

Bu farw yn 1967. Roedd yn dad i'r ysgolhaig Eurys Ionor Rowlands.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Dan yr enw Meuryn daeth i sylw Cymry llengar fel nofelydd o 1902 ymlaen. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1921 gyda'i awdl 'Min y Môr'. Cyhoeddodd nifer o lyfrau i blant hŷn a chyfres o nofelau dirgelwch poblogaidd. Fel beirniad ar ymrysonau barddol y BBC daeth yn ffigwr cyfarwydd yn y diwylliant Cymraeg; daw'r gair 'meurynnu', sef beirniadu a barnu cerddi mewn ymryson, o'i enw barddol a chyfeirir at y beirniad ei hun fel 'y meuryn' yn ogystal.[1]

Fe'i cofir yn bennaf am ei lyfrau plant a'i nofelau dirgelwch. Gwelir tair thema amlwg yn ei waith, sef antur, natur a dirgelwch. Lleolir rhai o'i lyfrau gorau yng nghefn gwlad Cymru a rhydd ei nofelau dirgelwch a ditectif ddarlun o gymdeithas y Gogledd Cymru wledig ganol yr 20g. Roedd wrth ei fod ym myd natur ac yn arbennig bryniau a chymoedd y Carneddau yn Eryri. Yn ei deyrnged iddo meddai ei gyfaill a chyd-newyddiadurwr E. Morgan Humphreys,

Ymhyfrydai ym myd natur, ac yr oedd yn adnabod pob aderyn a oedd yn ehedeg yn awyr bro ei febyd, Aber ger Bangor. Roedd wedi darllen llawer hefyd am bob math o greaduriaid estronol - nid rhyfedd i Feuryn ddod yn adnabyddus fel awdur cyfrolau o storïau am wylltfilod yn ddiweddarach.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweithiau Meuryn[golygu | golygu cod]

Astudiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwynn Jones, 'R. J. Rowlands (Meuryn)' yn, Mairwen a Gwynn Jones, Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwynn Jones, 'R. J. Rowlands (Meuryn)', Dewiniaid Difyr (1983).
  2. Yr Herald Gymraeg, 29 Mawrth, 1954. Dyfynnir yn Dewiniaid Difyr.