Dringwr Bach
Oddi ar Wicipedia
| Dringwr Bach | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Certhiidae |
| Genws: | Certhia |
| Rhywogaeth: | C. familiaris |
| Enw deuenwol | |
| Certhia familiaris Linnaeus, 1758 |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Certhiidae, y Dringwyr, yw'r Dringwr Bach (Certhia familiaris). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, ac mae naw is-rywogaeth i gyd.
Nid yw'r Dringwr Bach yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, a'i ddull arferol o fwydo yw hedfan i waelod coeden ac yna ei dringo, cyn hedfan i waelod coeden arall i ail-ddechrau. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12.5 cm o hyd.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn i'r mwyafrif, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Is-rywogaethau [golygu]
- C. f. familiaris - Llychlyn a dwyrain Ewrop hyd orllewin Siberia
- C. f. britannica - Prydain ac Iwerddon
- C. f. macrodactyla - gorllewin Ewrop
- C. f. corsa - Corsica
- C. f. daurica - dwyrain Siberia a gogledd Mongolia
- C. f. orientalis - dyffryn afon Amur, gogledd-ddwyrain Tseina a Corea
- C. f. japonica - Japan
- C. f. persica - y Crimea a Twrci hyd at ogledd Iran
- C. f. tianchanica - gogledd-orllewin Tseina
- C. f. hodgsoni - gorllewin yr Himalaya, Kashmir
- C. f. mandellii - dwyrain yr Himalaya
- C. f. khamensis - Sichuan