Crythor Du

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerddor Cymreig canoloesol oedd Y Crythor Du. Ceir sawl chwedl werin amdano ac mae'n amhosibl gwybod erbyn heddiw a fu rhyw "Grythor Du" yn clera yng Nghymru yn y gorffennol neu beidio.

Gelwir un o'r chwedlau amdano 'Y Crythor Du a'r Bleiddiaid'. Un noson loergan yr oedd y Crythor Du yn cyfeirio ei gamau tuag adref a'i grwth ar ei gefn ac yn sydyn cafodd ei amgylchynu gan yrr o fleiddiaid. I'w cadw draw dechreuodd chwarae ei grwth â'i holl egni gyda'r bwriad o'u dychryn. Llwyddodd i'w hatal am ychydig ond yn fuan roeddynt yn barod i ruthro iddo. Pan welodd hynny, dechreuodd chwarae alawon melus seinber. Llonyddodd hyn y bleiddiaid rheibus ond doedd gwiw i'r Crythor roi'r gorau i'w chwarae a bu wrthi trwy'r nos yn ei ofn a'r bleiddiaid yn gwrando'n astud. Tua'r wawr daeth grŵp o ddynion heibio a ffodd y bleiddiaid.[1]

Yn ôl chwedl arall, roedd y Crythor Du yn un o'r cerddorion crwydr a arferai fynd ar deithiau clera gyda'i was i'w ddilyn. Dywedir i'r ddau farw o oerfel anghyffredin yn Eryri un gaeaf pan ar daith glera i Feddgelert. Cofnoda'r hynafiaethydd Edward Lhuyd fod beddau'r Crythor a'i was yn adnabyddus yn ei gyfnod ef ar lan Llyn Dinas yn Nant Gwynant.[2]

Mae'n bosibl mai'r Crythor Du hwn a gofir yn enw 'Ogof y Crythor Du', ger Cricieth. Dywedir fod crythor, pibydd a chornor wedi'u denu i'r ogof gan sain miwsig bersain. Nis gwelwyd byth wedyn, ond clywid alawon y cerddorion yn dod o'r ogof. Dyma 'Ffarwél Ned Puw' neu 'Ffarwél Dic y Pibydd'.[3]

Ceir hen gainc i'r delyn a elwir 'Erddigan y Crythor Du'. Ceir cainc arall o'r enw 'Cainc y Crythor Du Bach' hefyd.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (Caernarfon, d.d.=1913), tud. 332.
  2. Llyfr Cerdd Dannau, tud. 332.
  3. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. 'Ffarwél Ned Puw'.
  4. Llyfr Cerdd Dannau, tud. 333.