Llyn Dinas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Dinas gyda Moel Siabod yn y pellter
Am y llyn artiffisial yng Ngheredigion, gweler Cronfa Dinas.

Gorwedd Llyn Dinas rhwng pentref Beddgelert a Chapel Curig, Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae Afon Glaslyn yn llifo trwy'r llyn.

Saif Llyn Dinas yn Nant Gwynant ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o bentref Beddgelert ac i'r de-orllewin o Lyn Gwynant, tua 55 medr uwchlaw'r môr. Er ei fod yn llyn gweddol fawr, tua 70 acer, dim ond tua 10 medr ydyw yn ei fannau dyfnaf. Ceir pysgota da yma am eogiaid a brithyllod.

Daw'r enw Llyn Dinas o'r gaer gyfagos Dinas Emrys, ar ben bryn creigiog a choediog Craig y Dinas, lle mae olion amddiffynfeydd o'r Oesoedd Canol ac o gyfnodau cynharach.

Carreg yr Eryr[golygu]

Gerllaw'r llyn mae craig yn dwyn yr enw Carreg yr Eryr a oedd, yn ôl siarter o'r flwyddyn 1198, yn nodi'r fan lle roedd cantrefi Eifionydd, Ardudwy ac Arfon yn cyfarfod. Mae gan Gerallt Gymro stori fod eryr yn arfer eistedd ar y garreg unwaith yr wythnos, yn aros am ryfel rhwng gwŷr y tri chantref.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0