Castell Tintagel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o'r castell, gyda phentref Tintagel yn y pellter.

Saif Castell Tintagel ar graig uwchlaw'r môr ar arfordir gogleddol Cernyw, nid nepell o bentref Tintagel. Mae'r olion sydd i'w gweld yno yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd, ond ymddengys fod y safle yn llawer hŷn. Bu cloddio yma yn y 1930au gan Ralegh Radford, a chafwyd hyd i olion sefydliad o'r 5ed neu 6ed ganrif. Dengys swp enfawr o arteffactau Rhufeinig i'r gaer fod unwaith yn ganolfan bwerus iawn gyda chysylltiadau pwysig gydag Ewrop.

Yn fersiwn Sieffre o Fynwy o chwedl Arthur yn ei Historia Regum Britanniae, mae Tintagel yn gaer yn perthyn i Gorlois, Dug Cernyw. Syrth Uthr Bendragon mewn cariad a gwraig Gorlois, Eigr (Igraine). Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Igraine yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gyda Igraine yng nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur.

Darganfyddiad 1988[golygu]

Yn 1988, darganfuwyd darn o lechen a oedd yn perthyn i gyfnod y canol oesoedd, ar ochr ddwyreiniol y safle ac arni enw tri dyn: Paternus, Coliou ac Artognou. Cred rhai mai fersiwn wedi'i Seisnigeiddio o Arthur yw'r trydydd.