Tetricus I

Oddi ar Wicipedia
Tetricus I
Ganwyd3 g Edit this on Wikidata
Bordeaux Edit this on Wikidata
Bu farw275 Edit this on Wikidata
Lucania Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Alaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd3 g Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodNera Pivesuvia Edit this on Wikidata
PlantTetricus II Edit this on Wikidata

Gaius Pius Esuvius Tetricus neu Tetricus I oedd ymerawdwr yr Ymerodraeth Alaidd rhwng 271 a 274. Ef a'i fab, Tetricus II, oedd yr olaf i deyrnasu dros yr Ymerodraeth Alaidd.

Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Victorinus yn 271, gwnaed Tetricus yn ymerawdwr gan fam Victorinus, Victoria. Yn 271 a 272 bu Tetricus yn ymladd yn erbyn yr Almaenwyr. Gwnaeth ddinas Trier yn brifddinas iddo. Yn 273, rhoddodd deitl Cesar i'w fab, Tetricus II. Yn 274 ymgyrchodd yr ymeradwr Rhufeinig Aurelian yn erbyn yr Ymerodraeth Alaidd, a gorchfygodd Tetricus mewn brwydr ger Châlons-sur-Marne. Cymerwyd Tetricus a'i fab yn garcharorion, ond ni chawsant eu dienyddio. Yn ddiweddarach, gwnaed Tetricus yn llywodraethwr Lucania.