Brasília
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Brasilia)
| Brasília | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Brasil | |
| Gwlad | Brasil |
| Ardal | Canolog-gorllewinol |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Ardal Ffederal Brasil |
| Maer | José Roberto Arruda |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 5,802 km² |
| Uchder | 1,172 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 2,557,158 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 435.98 /km2 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | BRT (UTC-3) |
| Cod Post | 70000-000 |
| Gwefan | Ardal Ffederal Brasília |
Brasília yw prifddinas Brasil. Saif yn ei hardal weinyddol ei hun, y Distrito Federal. Lleolir y ddinas ar lwyfandir canolbarth Brasil.
Cafodd y syniad o gael prifddinas yng nghanol y wlad ei grybwyll am y tro cyntaf yn 1789, ond bu rhaid aros tan 1956 i wireddu'r breuddwyd pan ddewiswyd y safle presennol ar gyfer dinas newydd sbon yn brifddinas i'r wlad.
Agorwyd y safle yn swyddogol yn 1961. Y prif bensaer oedd Oscar Niemeyer a Lucio Costa oedd y prif gynllunydd.
Mae'r adeiladau modern hardd yn Brasília yn cynnwys Adeilad y Gyngres a'r eglwys gadeiriol. Agorwyd y brifysgol yn 1962.
Enwogion [golygu]
- Joaquim Cruz (g. 1963), athletwr
- Kaká (g. 1982), chwaraewr pêl-droed