Eglwys Gadeiriol Brasília
Oddi ar Wicipedia
Eglwys gadeiriol yn ninas Brasília, prifddinas Brasil, yw Eglwys Gadeiriol Brasília (Portiwgaleg: Catedral Metropolitana Nossa Senhora Aparecida). Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer modernaidd blaengar Oscar Niemeyer, sydd hefyd yn gyfrifol am safleoedd eraill yn y brifddinas.
Mae'n strwythur ffrâm goncrid hyperboloid asymetrig gyda tho gwydr, agored, sydd fel petai'n ymestyn am y nefoedd. Cysgrwyd yr adeilad yn eglwys gadeiriol ar 31 Mai 1970. Mae'r strwythur hyperboloid cyfan yn cael ei ddal i fyny gan 16 colofn goncrid sy'n pwyso 90 tunnell yr un; yn ôl y pensaer maent yn cynrychioli dwylo yn ymestyn i fyny am y nefoedd.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: