Distrito Federal (Brasil)
Oddi ar Wicipedia
Y Distrito Federal yw'r ardal weinyddol o gwmpas prifddinas Brasil, Brasilia. Amgylchynir y Distrito Federal ar bob ochr gan dalaith Goiás.
Daeth Brasilia yn brifddinas y wlad yn 1960. Heblaw Brasilia ei hun, sydd â phoblogaeth o tua 200,000, mae 18 ardal weinyddol (Regiões Administrativas) arall yn y Distrito Federal, gyda phoblogaeth o 1.851 miliwn. Ers 1969, mae gan yr ardal Lywodraethwr, ac fel y taleithiau, mae'n gyrru tri chynrychiolydd i'r Senedd.
| Taleithiau Brasil | |
|---|---|
| Taleithiau | Acre • Alagoas • Amapá • Amazonas • Bahia • Ceará • Espírito Santo • Goiás • Maranhão • Mato Grosso • Mato Grosso do Sul • Minas Gerais • Pará • Paraíba • Paraná • Pernambuco • Piauí • Rio de Janeiro • Rio Grande do Norte • Rio Grande do Sul • Rondônia • Roraima • Santa Catarina • São Paulo • Sergipe • Tocantins |
| Tiriogaethau | Distrito Federal |