Awdurdod Datblygu Cymru

Oddi ar Wicipedia
Awdurdod Datblygu Cymru
Welsh Development Agency
TalfyriadWDA
Sefydlwyd1976
Daeth i ben1 Ebrill 2006
MathCorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
PwrpasAsiantaeth datblygu economaidd
PencadlysPlas Glyndwr, Ffordd y Brenin, Caerdydd, CF10 3AH
Cysylltir gydaLlywodraeth Cymru
GwefanGwefan Swyddogol - Archif o 2006

Asiantaeth Weithredol (neu QUANGO) oedd Awdurdod Datblygu Cymru (Saesneg: Welsh Development Agency neu WDA) a ddaeth yn ddiweddarach yn gorff cyhoeddus a noddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1976 gyda'r nod o achub economi Cymru drwy gefnogi datblygiad busnes a buddsoddiad yng Nghymru, clirio tir diffaith ac annog twf busnesau lleol. Diddymwyd y WDA yn Ebrill 2006 a throsglwyddwyd ei swyddogaeth i Lywodraeth Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y WDA o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975, gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd John Morris, AS dros Aberafan. Roedd pedwar nod gan y WDA:[1]

  1. hybu datblygiad economaidd Cymru
  2. annog effeithlonrwydd diwydiannol a cystadleugarwch rhyngwladol
  3. creu a diogelu swyddi
  4. gwella'r amgylchedd gan roi sylw arbennig i fwynderau mewn bodolaeth

Fe weithiodd y corff i sicrhau mentergarwch yng Nghymru drwy gynyddu'r nifer o fusnesau newydd a pherswadio cwmnïau rhyngwladol i ail-leoli neu agor cyfleusterau ategol yng Nghymru. Sefydlwyd Finance Wales fel cwmni cyfyngedig cyhoeddus gan y WDA ac mae'n dal i ddarparu nawdd i fusnesau Cymreig.

Haerwyd fod y WDA yn un o sefydliadau pwysicaf Cymru, ac roedd yn cyflogi cannoedd o weithwyr[2] gyda rhwydwaith o swyddfeydd yn fyd-eang a phencadlys yn hen adeilad Banc Cymru yng Nghaerdydd. Yn ei hanes 30-mlynedd roedd adroddiadau'r WDA yn hawlio'r clod[3] am greu cannoedd o filoedd o swyddi a sicrhau biliynau o bunnoedd o fuddsoddiadau. Cafodd glod hyd yn oedd gan y Prif Weinidog Margaret Thatcher, a ddywedodd ei fod yn gwneud gwaith rhagorol.[4] Roedd gan y WDA gyllid blynyddol o tua  £70 miliwn y flwyddyn.

Llwyddiant[golygu | golygu cod]

Ar ôl i rai materion llywodraethu ddod i'r fei yn y 1990au cynnar (gweler "Materion dadleuol" isod), penododd y Llywodraeth David Rowe-Beddoe (Lord Rowe-Beddoe yn ddiweddarach) fel Cadeirydd yn 1993. Apwyntiodd Rowe-Beddoe ymchwiliad wedi ei arwain gan Syr John Caines yn hwyr yn 1993, a arweiniodd at benodi swyddogion gweithredol newydd. Roedd y newidiadau yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyfreithiol newydd ac Ysgrifennydd yr Asiantaeth newydd a fynychodd Bwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus. Gweithiodd gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a'r Swyddfa Gymreig o dan Syr Michael Scholar CB yn 1994-96, i greu asiantaeth oedd yn cydymffurfio gydag Egwyddorion Nolan a daeth y QUANGO cyntaf yn y DU i gael Cod Ymarfer. Roedd yr Asiantaeth yn adrodd i John Redwood, David Hunt a William Hague fel Ysgrifenyddion Cymru o dan lywodraethau Thatcher a Major.

Yn y 1990au cododd yr Asiantaeth i'r brig unwaith eto fel un o'r asiantaethau busnes blaenllaw yn y DU. Cafodd ei gydnabod am ddenu, sicrhau neu warchod buddsoddiad gan nifer o gwmnïau mawr fel Ford, Bosch, Panasonic, Sony, Hoover, TRW, Anglesey Aluminium, Toyota, British Airways, TRW a General Electric. Daeth i amlygrwydd yn denu cwmnïau gwasanaethau ariannol fel Legal & General a Lloyds Bank i Gymru ac yn ddiweddarach, prif ganolfannau galw.

Gyda Chyngor Sir De Morgannwg, fe wnaeth y WDA helpu sefydlu cwmni Admiral Insurance plc, sydd erbyn hyn yn gwmni FTSE 100.

Cyfrannodd y WDA at adeilad Stadiwm y Mileniwm a'r rhodfa ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1999 a Chanolfan Mileniwm Cymru. Fe gynorthwyodd yn sefydlu Gardd Fotaneg Cymru a Llwybr Arfordir Llanelli. Fe waredodd dir llygredig ac fe waredodd a adferodd tipiau glo yn Ne Cymru drwy'r arweinydd byd yn y maes, Gwyn Griffiths OBE. Roedd llwyddiannau arall yn cynnwys partneriaethau gyda'r 22 awdurdod lleol a grëwyd yn y 1990au, ar adfywio trefol a grantiau gwella trefi. Fe weithiodd yn yr UE gyda swyddfa yn Brussels o'r enw Canolfan Ewropeaidd Cymru, gan sicrhau ei fod yn ennill nawdd Ewropeaidd gyda'r Swyddfa Gymreig.

Arweiniodd y cynnig llwyddiannus gyda Syr Terry Matthews i gynnal y Ryder Cup yn y Celtic Manor, oedd yn cael ei adeiladu ar y pryd ger Newport.

Sefydlodd y cwmni buddsoddi Finance Wales plc.

Yn dilyn llwyddiant mawr WDA yng nghanol a diwedd y 1990au, cyfunwyd cyrff eraill gyda'r asiantaeth, yn cynnwys Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, Awdurdod Tir Cymru, y Cynghorau Menter Technegol a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Gwelwyd "coelcerth y QUANGOs" yma fel defnydd effeithlon o arian cyhoeddus.[angen ffynhonnell]

Cyfuniad[golygu | golygu cod]

Daeth y WDA i ben ar 1 Ebrill 2006, pan gyfunwyd yr asiantaeth a dau gorff arall - Bwrdd Croeso Cymru ac ELWa - mewn i Lywodraeth Cymru. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar adeg y cyfuniad oedd Ieuan Wyn Jones.

Gwnaed y penderfyniad i ddiddymu'r WDA gan Andrew Davies, yr AS dros Abertawe ynghyd â'r Prif Weinidog ar y pryd Rhodri Morgan. Ni chafwyd ymgynghoriad gyda'r gymuned fusnes am y newid [angen ffynhonnell] ac roedd barn gymysg am y penderfyniad [angen ffynhonnell]. Mae rhai wedi galw am newid i'r penderfyniad gan roi enghreifftiau fel methiant y buddsoddiad gan LG o Gorea yng Nghasnewydd [angen ffynhonnell]. Fe adalwyd yr arian o LG, ac yn Yr Alban roedd pryder cyhoeddus am fuddsoddiad tebyg yn Motorola oherwydd methiannau yn y diwydiant lled-ddargludyddion.

Materion dadleuol[golygu | golygu cod]

Yn y 1990au cynnar cododd helynt pan benododd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Peter Walker ddyn busnes, Gwyn Jones, yn gadeirydd y corff ar ôl ei gyfarfod mewn cinio codi arian y Blaid Geidwadol. Fe ymddiswyddodd Jones yn ddiweddarach cyn cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan yn 1992[5] a gondemniodd yr asiantaeth am y canlynol:

  • rhoi taliadau diswyddo anghyfreithlon gyda chyfanswm o £1.4m rhwng 1989 a 1992;
  • talu £228,000 i sicrhau peidio datguddio gan cyn swyddog, Mike Price, a chafodd ei ddiswyddo yn dilyn gwrthdaro mewnol yn 1991;[2]
  • caniatáu moduron preifat am ddim i aelodau'r bwrdd rhwng 1984 ac 1992;
  • caniatáu ei gadeirydd, Dr Gwyn Jones i gael benthyciad datblygiad gwledig o £16,895 gan y WDA am un pwrpas, ond fe'i defnyddiodd am bwrpas arall heb hysbysu'r asiantaeth fel oedd angen, a ni thalodd y grant yn ôl pan nododd arolygydd y newid;[2]
  • hedfan cyfarwyddwyr y cwmni ar Concorde;[5] a
  • defnyddio arian cyhoeddus i ymchwilio i'r posibilrwydd o reolwyr yn prynu'r cwmni a fyddai wedi preifateiddio'r asiantaeth. Darganfu swm o £308,000 yng nghyfrifon 1988-1989 a dalodd am astudiaeth dichonoldeb i'r perwyl hwn.[2]

Daeth 'Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus' y Tŷ Cyffredin yn bryderus pan ddarganfu'r Archwilydd Cyffredinol, Sir John Bourn, lawer o anghysonderau yn ei archwiliad blynyddol o gyfrifon yr Asiantaeth.

Daeth beirniadaeth hefyd yn dilyn penodiadau Neil Carignan a Neil Smith gan Gwyn Jones. Terfynwyd cyflogaeth Carignan oherwydd perfformiad gwael, ond fe'i caniatawyd i fynd a gwerth £53,000 o gyfarpar swyddfa gydag e. Cyflogwyd Smith fel cyfarwyddwr marchnata, ond methodd y WDA a gwirio ei CV, oedd yn dwyllodrus, a'r ffaith ei fod yn fethdalwr wedi ei ryddhau. Cafodd Smith ei ymchwilio yn ddiweddarach gan yr heddlu, a fe'i cafwyd yn euog o ddwyn a thwyll ac fe'i carcharwyd.[2]

Diddymwyd y WDA mewn amgylchiadau anodd gyda datganiad yn y Cynulliad Cenedlaethol a oedd yn annisgwyl i aelodau'r Cynulliad. Roedd yr asiantaeth wedi apwyntio Graham Hawker fel prif weithredwr ac roedd ar ganol adrefnu ar y pryd i gau'r swyddfeydd rhanbarthol a grewyd yn 1995. Yn dilyn y cyhoeddiad ymddiswyddodd Hawker mewn amgylchiadau dadleuol heb hysbysu'r Gweinidog Andrew Davies AS a'r Cadeirydd Syr Roger Jones, ym Mhwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad. Roedd Hawker yn brif weithredwr Dwr Cymru Plc cyn ei apwyntiad dadleuol. Roedd yn rhaid achub Dwr Cymru gan y cwmni cydfuddiannol Glas Cymru a arweiniwyd gan Arglwydd Byrnes.

Archwiliad Pwyllgor Materion Cymreig[golygu | golygu cod]

Yn Chwefror 2011, gwnaed achos gan adroddiad o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin[6] fod diddymu'r WDA wedi lleihau amlygrwydd Cymru yn y farchnad fyd-eang. Roedd y pwyllgor yn honni fod, pum mlynedd yn ddiweddarach, yn parhau yn o'r brandiau Cymreig mwyaf adnabyddus ac yn dadlau y dylai sefydlu asiantaeth debyg i hyrwyddo masnach fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad hefyd yn dadlau dros ymrwymiad cryfach gan Lywodraeth Cymru gyda San Steffan ar y mater.

Cafodd yr adroddiad dderbyniad cymysg yn y Senedd. Fe wnaeth ASau Ceidwadol rhoi cynnig ar y bwrdd i gymeradwyo gosodiad un cyfrannydd fod "cau'r WDA a diddymu 'brand y WDA' yn un o'r penderfyniadau polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru o fewn cof". Mewn ymateb, cyhuddodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart fod rhai oedd yn credu hyn "eisiau ymweld a'r gorffennol".[7]

Ers i lywodraeth gael i ddatganoli, nid yw'r Cynulliad wedi cyflawni gymaint a'r WDA, gan ei feio ar newid o ran mewnfuddsoddiad yn fyd-eang, ond mae rhanbarthau arall o'r DU wedi cyflawni yn well yn arbennig yr Alban, a gadwodd y corff Scottish Enterprise.[angen ffynhonnell]

Cyhoeddwyd adroddiad hynod feirniadol am fewnfuddsoddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2012. Roedd yr adroddiad "Selling Wales"[8] yn asesiad o'r asiantaethau yn y maes a dadleuodd fod diffyg brand cyson yn un o'r prif broblemau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008), The Welsh Academy encyclopaedia of Wales, University of Wales Press, ISBN 978-0-7083-1953-6
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "How clean was my valley?". The Independent. 1994-08-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-19. Cyrchwyd 2012-02-25.
  3. "Annual Reprt 2003-04" (PDF). The Welsh Development Agency. 2005-03-10. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2005-03-10. Cyrchwyd 2012-02-25.
  4. Jones, Gareth (1 April 2006). "Questions over quango replacement". BBC News.
  5. 5.0 5.1 "Quangowatch: No 5: The Welsh Development Agency". The Independent. 1994-03-13. Cyrchwyd 2012-02-23.
  6. "Welsh Affairs Committee - Inward Investment in Wales Report". Parliament. 2012-02-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-25. Cyrchwyd 2012-02-24.
  7. "Business Minister Hart accuses supporters of WDA's return of wanting to 'revisit the past'". WalesOnline. 2012-03-01. Cyrchwyd 2012-03-05.
  8. http://business.cardiff.ac.uk/sites/default/files/Selling%20Wales%20FDI.pdf

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]