Andy Warhol
Arlunydd a gwneuthurwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau oedd Andrew Warhola, Jr a oedd yn fwy adnabyddus fel Andy Warhol (6 Awst 1928 - 22 Chwefror 1987). Roedd yn gymeriad blaenllaw yn y mudiad celfyddyd gweledol a elwir yn celfyddyd bop. Ar ôl cyfnod fel darlunydd masnachol, daeth Warhol yn enwog ledled y byd am ei waith fel peintiwr, gwneuthurwr ffilm avant-garde, cynhyrchydd recordiau, awdur ac aelod o gylchoedd cymdeithasol hynod amrywiol gan gynnwys pobl stryd Bohemaidd, deallusion, sêr Hollywood a noddwyr cefnog.
Y swm uchaf a dalwyd erioed am un o weithiau Warhol yw US$100 miliwn am lun ar ganfas o 1963 o'r enw Eight Elvises. Adroddwyd y trafod ariannol mewn erthygl yn The Economist yn 2009, a ddisgrifiodd Warhol fel "bellwether of the art market."
