Liza Minnelli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Liza Minnelli
Liza Minnelli
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Liza May Minnelli
Ganwyd (1946-12-03)

Rhagfyr 3, 1946 (68 oed)

Man geni Baner Unol Daleithiau Hollywood, Califfornia
Cerddoriaeth pop,
Galwedigaeth(au) Cantores, actores
Offeryn(au) cerdd Llais
Blynyddoedd 1949–presennol
Cysylltiedig Judy Garland

Cantores ac actores ffilm, llwyfan a theledu ydy Liza May Minnelli (ganed 12 Mawrth, 1946). Ei mam oedd yr actores a'r gantores Judy Garland a'i thad oedd y cyfarwyddwr ffilm Vincente Minnelli.

Wedi iddi astudio yn y "New York High School of Performing Arts" a'r "Stiwdio Herbert Berghof", dechreuodd Minnelli dderbyn rhannau mewn sioeau cerdd fel Best Foot Forward a Flora the Red Menace. Derbyniodd Gwobr Theatre World am "Best Foot Forward" ym 1963 a Gwobr Tony ym 1965 am "Flora the Red Menace". Roedd Minnelli eisoes wedi sefydlu'i hun fel cantores clybiau nos, ac fel actores cymeriad yn y ffilmiau The Sterile Cuckoo a Tell Me That You Love Me, Junie Moon. Serch hynny, y rôl a ddaeth a fwyaf o amlygrwydd iddi oedd fel Sally Bowles yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd Broadway Cabaret ym 1972. Derbyniodd Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm hon.

Er i brosiectau megis Lucky Lady, A Matter of Time a New York, New York gael eu beirniadau, ystyriwyd Minnelli yn un o ddiddanwyr mwyaf amryddawn a phoblogaidd ar y teledu, gan ymddamgos ar raglenni fel Liza with a Z ym 1972, ac ar lwyfan mewn cynhyrchiadau Broadway fel "The Act" a "The Rink". O ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, rhoddwyd sylw mawr yn y wasg i'r phroblemau iechyd, alcoholiaeth a'i chamdriniaeth o gyffuriau. Serch hynny, ail-sefydlwyd ei gyrfa gyda chyfres o deithiau cyngherddol fel "Liza Minnelli: At Carnegie Hall", "Frank, Liza & Sammy: The Ultimate Event" a "Liza Live from Radio City Music Hall".

Ar ôl blynyddoedd o broblemau iechyd difrifol, dychwelodd Minnelli i fyd perfformio yn 2002, gyda chyfres o gyngherddau o'r enw "Liza's Back". Yn 2008/09 perfformiodd y sioe Broadway Liza's at The Palace...! a enillodd Wobr Tony am y Digwyddiad Theatraidd Gorau.[1]

Mae Minnelli wedi ennill cyfanswm o dair Gwobr Tony, gan gynnwys Gwobr Tony Arbennig.[2] Mae hi hefyd wedi ennill Oscar, Gwobr Emmy, dau Golden Globe a Gwobr Arwr Grammy am ei chyfraniadau a dylanwad ym myd recordio, ynghyd â nifer o anrhydeddau a gwobrau eraill.

Cyfeiriadau[golygu]


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.