Brigitte Bardot

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Brigitte Bardot
Brigitte Bardot

Actores Ffrengig ac ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid yw Brigitte Anne-Marie Bardot, a adnabyddir fel rheol fel Brigitte Bardot (ganed 28 Medi, 1934).

Ganed hi yn ninas Paris. Gyrrodd ei mam hi a'i chwaer Marie-Jeanne i wersi dawnsio. a phenderfynodd Brigitte fynd yn ddawnswarog bale. Aeth i'r Conservatoire de Paris yn 1947, ac astudiodd fale dan y Rwsiad Boris Knyazev. Wedi gadael y Conservatoire, daeth yn fodel, yna cafodd ran mewn ffilm wedi i'r cyfarwyddwr Roger Vadim sylwi arni. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Le Trou Normand, yn 1952, a'r un flwyddyn priododd Vadim.

Yn y 1950au a'r 1960au, ymddangosodd mewn nifer fawr o ffilmiau, yn Ffrangeg a Saesneg, a daeth yn fyd-enwog. Mewn ffilmiau poblogaidd fel Et Dieu crea la femme, gwnaeth lawer i boblogeiddio'r bicini. Ysgarodd Vadim yn 1957, ac yn 1959 priododd yr actor Jacques Charrier. Yn ddiweddarach, bu'n briod a Gunter Sachs a Bernard d'Ormale.

Ymddeolodd o ffilmiau yn y 1970au. Yn y 1990au daeth Bardot yn adnabyddus fel ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, a daeth hyn a hi i wrthdrawiad ag Islam. Mae wedi cael ei dirwyo nifer o weithiau am sylwadau a ystyrid yn hiliol.

Offer personol