Marlon Brando
| Marlon Brando | |
|---|---|
Brando mewn Gorymdaith Hawliau Dinesig yn Washington, D.C., 28 Awst, 1963 |
|
| Ganwyd | 3 Ebrill, 1924 |
| Bu farw | 1 Mehefin, 2004 Los Angeles, Califfornia, UDA |
| Yn enwog am | A Streetcar Named Desire, On the Waterfront, Last Tango in Paris |
| Galwedigaeth | Actor |
Roedd Marlon Brando, Jr. (3 Ebrill, 1924 – 1 Mehefin, 2004) yn actor Americanaidd, enillydd Oscar, a ystyrir yn un o'r actorion ffilm mwyaf yr 20fed ganrif.
Daeth â thechnegau actio method (neu'r System Stanislavski cyffelyb) a ddysgodd yn Actors Studio, Efrog Newydd, i amlygrwydd yn y ffilmiau A Streetcar Named Desire ac On the Waterfront, a gyfarwyddwyd ill dau gan Elia Kazan yn y 1950au cynnar. Cafodd ei ddull actio, ynghyd â'i bersona cyhoeddus fel dyn ar yr ymylon heb ddiddordeb yn Hollywood "swyddogol" y cyfnod, effaith bellgyrhaeddol ar y genhedlaeth o actorion newydd a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y pumdegau ac yn ystod y 1960au cynnar.
Cymerai Marlon Brando ran amlwg mewn gweithgareddau gwleidyddol yn ogystal, e.e. y Mudiad Hawliau Dinesig yn America a'r American Indian Movement.
Fe'i enwyd y pedwerydd Seren Gwrywaidd Mwyaf Erioed gan Gymdeithas Ffilm America (The American Film Institute).