A Streetcar Named Desire (ffilm 1951)
Oddi ar Wicipedia
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Elia Kazan |
| Cynhyrchydd | Charles K. Feldman |
| Ysgrifennwr | Tennessee Williams |
| Serennu | Vivien Leigh Marlon Brando Kim Hunter Karl Malden |
| Cerddoriaeth | Alex North |
| Sinematograffeg | Harry Stradling Sr. |
| Golygydd | David Weisbart |
| Cwmni Cynhyrchu | Warner Bros. |
| Amser rhedeg | Mewn theatrau: 122 munud Golygiad y cyfarwyddwr: 125 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae A Streetcar Named Desire (1951) yn addasiad o ddrama o'r un enw gan Tennessee Williams. Cyfarywddwyd y ffilm gan Elia Kazan, a gyfarwyddodd y cynhyrchiad llwyfan hefyd. Mae'r ffilm yn serennu Marlon Brando, Vivien Leigh, Kim Hunter a Karl Malden; cawsant eu dewis am eu bod i gyd yn rhan o'r cast ar Broadway tra bod Leigh wedi serennu yn y cynhyrchiad yn West End Llundain. Cynhyrchwyd y ffilm gan yr asiant talentau a'r cyfreithiwr Charles K. Feldman, a rhyddhawyd y ffilm gan Warner Bros.. Ysgrifennwyd y sgript gan Williams ei hun, ond gwnaed nifer o newidiadau iddo i waredu'r cyfeiriadau at gyfunrywioldeb ymysg pethau eraill.