John Lennon
| John Lennon | |
|---|---|
![]() |
|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | John Winston Lennon |
| Enw arall | John Winston Ono Lennon |
| Ganwyd | 9 Hydref 1940 |
| Man geni | |
| Marw | Nodyn:Dyddiad marw |
| Cerddoriaeth | pop, |
| Galwedigaeth(au) | Cantor, cyfansoddwr, ysgrifennwr |
| Offeryn(au) cerdd | Llais, piano, gitar, organ geg |
| Blynyddoedd | 1957-75, 1980 |
| Label(i) recordio | Parlophone, Capitol, Apple, EMI, Geffen, Polydor |
| Cysylltiedig | The Quarrymen, The Beatles, Plastic Ono Band, The Dirty Mac, Yoko Ono |
| Gwefan | http://www.johnlennon.com |
Cerddor, canwr, cyfansoddwr, awdur ac ymgyrchydd heddwch Seisnig oedd John Winston Ono Lennon, MBE (ganwyd John Winston Lennon) (9 Hydref, 1940 – 8 Rhagfyr, 1980). Daeth i ymlygrwydd fel un o aelodau'r band "The Beatles". Gyda Paul McCartney, ffurfiodd Lennon un o bartneriaethau cyfansoddi caneuon mwyaf llwyddiannus a dylanwadol yr 20fed ganrif gan "ysgrifennu peth o'r gerddoriaeth mwyaf poblogaidd yn hanes roc a rol".[1] Caiff ei ystyried fel yr ail gyfansoddwr mwyaf llwyddiannus yn hanes siart sengl y Deyrnas Unedig ar ôl McCartney.[2] Cafodd ei eni yn Lerpwl. Roedd ef o dras Gwyddelig (Lennon, o Mac Leannain efallai). Cafodd ei ladd yn Efrog Newydd.
Arddangosodd Lennon ei natur wrthryfelgar a'i ffraethineb yn ei gerddoriaeth, ei ffilmiau, ei lyfrau ac mewn cyfweliadau a chynhadleddau i'r wasg. Roedd yn ddadleuol fel ymgyrchydd heddwch ac artist gweledol. Ar ôl The Beatles, cafodd Lennon yrfa unigol lewyrchus gydag albymau clodwiw megis "John Lennon/Plastic Ono Band" ac Imagine a'i ganeuon eiconig fel "Give Peace a Chance" ac "Imagine". Pan "ymddeolodd" er mwyn magu ei fab Sean, dychwelodd Lennon gydag albwm newydd, Double Fantasy, ond cafodd Lennon ei lofruddio llai na mis wedi i'r albwm gael ei rhyddhau. Aeth yr albwm i ymlaen i ennill Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn ym 1981.
Yn 2002, mewn arolwg barn y BBC o'r 100 o Brydeinwyr Gorau, rhoddwyd Lennon yn yr wythfed safle. Yn 2004, rhoddodd cylchgrawn Rolling Stone Lennon ar rif 38 ar eu rhestr "The Immortals: The Fifty Greatest Artists of All Time" (Rhoddwyd The Beatles ar rif un). Yn yr un cylchgrawn yn 2008, cafodd ei ystyried y pumed canwr gorau erioed. Ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei gyflwyno i'r "Songwriters Hall of Fame" ym 1987 ac i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1994.
Cynnwys |
[golygu] Gwragedd
[golygu] Plant
- Julian Lennon (ganwyd 8 Ebrill 1963)
- Sean Lennon (ganwyd 9 Hydref 1975)
[golygu] Disgograffiaeth
[golygu] Gyda'r Beatles
- Please Please Me (1963)
- With the Beatles (1963)
- Beatles for Sale (1964)
- Rubber Soul (1965)
- Revolver (1966)
- Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band (1967)
- The Beatles (1968)
- Abbey Road (1969)
- Let it be (1970)
[golygu] Gwaith Unigol
- Imagine
- Mind Games
- Walls and Bridges (1974)
[golygu] Gyda Yoko Ono
- Double Fantasy
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ bbc.co.uk/dna/h2g2 "The Lennon-McCartney Songwriting Partnership" Cyfieithad o wefan bbc.co.uk, 04-11-05. Adalwyd ar 14-12-2006
- ↑ Top 100 Songwriters. Adalwyd 09-10-2009
