Cerddoriaeth roc caled

Oddi ar Wicipedia

Math o gerddoriaeth roc wedi ei chwyddleisio a gyda churiad trwm[1] yw cerddoriaeth roc caled.[2] Mae'n debyg iawn i gerddoriaeth fetel trwm, ac yn aml mae'n anodd diffinio'r union ffiniau rhwng y ddau genre. Yn gyffredinol mae gan gerddoriaeth roc caled arddull faledol sydd yn defnyddio organ Hammond a syntheseisydd, a chanu'n uchel gyda vibrato ar nodau hirion. Yn yr unawd gitâr, mae mydr yn bwysicach nag aflunio'r sain, sydd yn un o'r brif wahaniaethau rhwng roc caled a metel trwm. Mae geiriau caneuon roc caled yn canolbwyntio ar wrywdod a rhyw, ac yn aml yn rhywiaethol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "hard rock" Archifwyd 2015-05-16 yn y Peiriant Wayback. ar OxfordDictionaries.com
  2. Geiriadur yr Academi, [rock2].
  3. Latham, Alison (gol.). The Oxford Companion to Music (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002), t. 577–8.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth roc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.