Albert Camus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albert Camus
Albert Camus, gagnant de prix Nobel, portrait en buste, posé au bureau, faisant face à gauche, cigarette de tabagisme.jpg
Geni Albert Camus
7 Tachwedd 1913
Dréan, Algeria
Marw 4 Ionawr 1960
Villeblevin, Ffrainc
Galwedigaeth Llenor
Cenedligrwydd Algeriad / Ffrengig
Ethnigrwydd Algeriad-Ffrengig
Cyfnod ysgrifennu 20fed ganrif
Symudiad llenyddol Dirfodaeth (Existentialism)
Absurde
Gwobrau nodedig Gwobr Llenyddiaeth Nobel

Llenor yn yr iaith Ffrangeg ac athronydd oedd Albert Camus (7 Tachwedd 1913 - 4 Ionawr 1960), a anwyd yn Mondovi (heddiw: Dréan) yn Algeria. Ystyrir Camus ymhlith awduron mwyaf blaenllaw a dylanwadol y 20fed ganrif.

Fel Jean-Paul Sartre a Simone de Beauvoir, arddelai Camus athroniaeth dirfodaeth (Existentialism). Cafodd Wobr Nobel ym 1957.

Dyn papur newydd a chynhyrchydd dramâu oedd wrth ei alwedigaeth; fe gyhoeddodd gyfrolau o ysgrifau ar athroniaeth a gwleidyddiaeth ac ysgrifennodd ddramâu, ond fel athronydd ac, yn enwedig, fel nofelydd y daeth i fri ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Defnyddiodd y nofel fel cyfrwng i fynegi ei syniadau am fywyd a chyflwr y ddynoliaeth.

Bywyd cynnar[golygu]

Nid Ffrancwr ond Algeriad o dras cymysg oedd Camus. Er iddo yn y pen draw ymsefydlu yn Ffrainc, ni chollodd ei hiraeth am ei hen fro, fel y dengys yn ei waith. Ganed ef yn Algeria ar 7 Tachwedd, 1913, yn fab i rieni tlawd ac anllythrennog bron. Hanai ei dad, gweithiwr fferm, o Alsace yn nwyrain Ffrainc. Ychydig ar ôl geni'r mab lladdwyd y tad, yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Hanai teulu ei fam o ynys Mallorca. O ganlyniad i ddamwain yn ystod ei phlentyndod, gadewid y fam yn fyddar ac â nam ar ei llefarydd. Prin felly oedd y cyfathrebu rhwng mam a mab, a phrin y mynegiant o gariad, ond bu gan ei berthynas â'i fam ddylanwad dwfn a pharhaodd ar Camus ar hyd ei oes.

Er gwaethaf tlodi ei blentyndod, ni fu hyn yn achos iddo chwerwi ac yn wir fe ddiolchai i'r tlodi am ffurfio ei gymeriad teimladwy.

Fel plentyn deallus cafodd sylw a gofal arbennig athrawon ysgol ac enillodd ysgoloriaeth ym 1923 i Ysgol Ramadeg Algiers, lle disgleiriai fel nofelwr, dawnsiwr a gôl-geidwad pêl-droed.

Gyda golwg ar yrfa fel athro, astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Algiers. Ond roedd yn dioddef o'r ddiciâu (tuberculosis) ers yn ddwy ar bymtheg oed ac yn y diwedd, oherwydd gwaeledd, bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w uchelgais. Ym 1933 priododd ond ar ôl blwyddyn bu ysgariad. Ychidig a wyddys am y briodas. Ymunodd a'r Blaid Gomiwnyddol a chael y gorchwyl o ledaenu'r neges ymhlith yr Arabiaid, ond ar ôl Cytundeb Laval-Stalin, 1935, adawodd y blaid.

Gweithiodd fel clerc yn Swyddfa'r Sir, yn y Sefydliad Astudio Tywydd ac fel aelod o Gwmni Drama Teithiol dan nawdd Gorsaf Radio Algiers. Y theatr a chwaraeon oedd ei brif ddiddordebau, ond darllenai'n helaeth. Ysgrifennodd ddramâu a ffurfio cwmni drama i ddod â theatr i'r werin. Teithiodd yn Ffrainc, yr Eidal ac Awstria.

Cwblhaodd ei radd yn 1936 ac yna ysgrifennodd traethawd ymchwil. Erbyn 1938 daethai i fedru ennill bywoliaeth fel dyn papur newydd, yn gweithio gyda'r Alger-Répubicain, unig bapur y chwith yn Algeria. Am gyfnod daeth yn olygydd ar y papur. Mewn cyfres o erthyglau ymosodol achubodd gam yr Arabiaid a'r Kabyliaid a ddioddefai o anghyfiawnder yr awdurdodau Ffrengig. Ar hyd ei oes bu Camus yn groesgadwr pybyr dros gyfiawnder cymdeithasol.

Ail Ryfel Byd[golygu]

Pan dorrodd y rhyfel allan fe waharddwyd y papur a bu'n rhaid i Camus ymfudo i Ffrainc i gael gwaith. Ond yn fuan fe oresgynnwyd Ffrainc gan y Natsïaid a bu'n rhaid ffoi i Lyon. Yno fe ail-briododd a dychwelyd gyda'i wraig i Algeria. Eto aeth yn ôl i Ffrainc ac oherwydd y rhyfel fe gollodd bob cysylltiad â hi.

Eisoes roedd wedi cwblhau L'Étranger (Y Dieithryn) a'i lyfr enwog Le Mythe de Sisyphe (Chwedl Sisyphus). Cyhoeddwyd y ddau ym 1942 a daethant a bri iddo'n syth. Ym 1943 ymunodd a'r mudiad Résistance a oedd yn ymladd yn erbyn goresgyniad Ffrainc. Aeth yn olygydd 'Combat', papur y mudiad ym 1944. Yn y papur mynegai Camus ei obaith y gwelid trefn newydd a chyflawnach yn Ffrainc wedi’r rhyfel, ond fe ddadrithiwyd ef a rhoes y gorau i’r papur newydd ym 1945, ac i waith cyson fel ysgrifennwr i bapur newydd, gan ei gyfyngu ei hun i bynciau o bwys eithriadol.

Gwobr Nobel[golygu]

Albert Camus, gan Petr Vorel

Gyda chyhoeddiad ei nofel fawr La Peste (Y Pla) yn 1947 daeth i'w le fel un o brif lenorion yr oes. Teithiodd i'r Unol Daleithiau yn 1946 ac i Frasil yn 1949. Ar ôl pwl drwg o diciâu yn y flwyddyn honno fe giliodd o fywyd cyhoeddus ac ysgrifennu L'Homme Révolté (Dyn Mewn Chwyldro). Achosodd y llyfr hwn ffrae enwog rhwng Camus a Jean-Paul Sartre yn y wasg. Digalonnwyd Camus gan y derbyniad a gafodd ei lyfr, a chan y rhyfel gwaedlyd yn ei wlad ei hun, yn Algeria. Ni fynnai ochri â'r naill ochr neu'r llall, ond yn ddewr iawn fe aeth yn ôl i apelio (yn ofer) am gadoediad.

Yn 1956 fe gyhoeddwyd ei nofel olaf, La Chute (Y Cwymp), ac yn 1957 ei gasgliad olaf o straeon byrion, L'Exil et le Royaume (Allwedd a'r Deyrnas). Y flwyddyn honno, fe ddyfarnwyd iddo'r Wobr Nobel am lenyddiaeth. Gyda'r arian fe brynodd dŷ yn ne Ffrainc lle aeth ati i weithio ar nofel a chasgliad o straeon byrion. Daliai yn fregus ei iechyd. Ar 4 Ionawr, 1960, wrth ddychwelyd i Baris ar ôl gwyliau'r Flwyddyn Newydd gyda'i gyfaill, y cyhoeddwr Michel Gallimard, fe sglefriodd y car a chwalu'n gyrbibion yn erbyn coeden. Lladdwyd Camus yn y fan, ond yn 46 oed.

Cyfeiriadau[golygu]

Clawr - Y Dieithryn gan Albert Camus, Trosiad Bruce Griffiths, 1972

Addaswyd yr uchod o gyflwyniad Bruce Griffiths i’w drosiad L'Étranger (Y Dieithryn) Cyfres yr Academi Rhif 1, 1972. Gwasg Gomer


Gwaith llenyddol (detholiad)[golygu]

Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.