Prys Morgan
Hanesydd Cymreig a llenor yw Prys Morgan (ganed 1937). Mae wedi ysgrifennu sawl cyfrol ac erthygl ar hanes Cymru, yn Saesneg, ac ar hyn o bryd mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth. Yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn ddarlledwr, yn olygydd cylchrawn ac yn awdur ffuglen a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal.
Gyrfa [golygu]
Ganed Prys Morgan yn ninas Caerdydd, yn fab i'r academydd T. J. Morgan. Ganwyd ei frawd iau Rhodri, a ddaeth yn Brif Weinidog Cymru, ddwy flynedd ar ei ôl yn 1939. Fel ei frawd, astudiodd Prys Morgan yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, cyn dod yn aelod o staff Adran Hanes Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle bu ei dad yn athro o'i flaen. Bu'n ddirprwy olygydd y cylchgrawn Barn o 1966 hyd 1973.[1]
Ar ôl ymddeol o'r byd academaidd daeth yn Arlywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn Arlywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar ôl cyfnod hir fel golygydd Trafodion y Gymdeithas. Er ei fod wedi ymddeol fel athro, mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, prosiect y mae ei ymchwil yn dwyn ffrwyth fel cyfres o gyfrolau newydd ar bob agwedd ar fywyd a gwaith y llenor a ffugiwr enwog hwnnw o'r 18fed ganrif.
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.
Gwaith [golygu]
Ymhlith llyfrau Prys Morgan[1] ceir:
- Llyfrau academaidd
- Background to Wales (1968). Hanes.
- Iolo Morganwg (1975). Cyfres Writers of Wales.
- The Eighteenth Century Renaissance (1981). Astudiaeth arloesol o ddadeni diwylliannol y 18fed ganrif.
- Wales: The Shaping of a Nation (1984). Hanes
- Bible for Wales – Beibl i Gymru (1988).
- Tempus Illustrated History of Wales (2000)
- Ffuglen a cherddi
- I'r Bur Hoff Bau (1968). Nofel
- Trugareddau (1973). Cerddi.
- Cyfieithiad
- Caligula, drama Ffrangeg Albert Camus (1978)