Jean-Paul Sartre
Oddi ar Wicipedia
Roedd Jean-Paul Charles Aymard Sartre (21 Mehefin 1905 – 15 Ebrill 1980), a adnabyddir gan amlaf fel Jean-Paul Sartre (yngenir [ʒɑ̃ pol saʁtʁə]), yn athronydd dirfodaethol, dramodydd, awdur, sgriptiwr, gweithredwr gwleidyddol, bywgraffydd a beirniad llenyddol o Ffrainc. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn athroniaeth Ffrengig yr ugeinfed ganrif. Fe'i ganed ym Mharis.
Ym 1964 derbyniodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth [1] ond gwrthododd ef gan nodi "It is not the same thing if I sign Jean-Paul Sartre or if I sign Jean-Paul Sartre, Nobel Prize winner. A writer must refuse to allow himself to be transformed into an institution, even if it takes place in the most honorable form."
