André Malraux
Llenor a gwleidydd Ffrengig oedd André Malraux, enw llawn Georges André Malraux, (3 Gorffennaf 1901 - 23 Tachwedd 1976).
Ganwyd ef yn ninas Paris. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, ac ni chafodd addysg uwch. Roedd i raddau helaeth yn hunan-addysgedig. Aeth i drefedigaethau Ffrainc yn Indo-Tsieina, lle sefydlodd gylchgrawn gwrth-imperialaidd. Carcharwyd ef yn 1923-1924 am ddelio mewn hynafiaethau yn Phnom Penh; defnyddiodd y profiad yn ei waith diweddarach La Voie royale (1930). Ymladdodd yn Rhyfel Cartref Sbaen dros y Gweriniaethwyrm ac yn erbyn yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Résistance Ffrengig. Wedi'r rhyfel, daeth yn un o gefnogwyr Charles de Gaulle, a bu'n Weinidog Diwylliant rhwng 1959 a 1969, er ei fod yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o'r adain chwith. Claddwyd ef yn y Panthéon ym Mharis.
Gweithiau [golygu]
- La Tentation de l'Occident, 1926
- Les Conquérants, 1928
- Royaume-Farfelu, 1928
- La Voie royale, 1930, Prix Interallié.
- La Condition humaine, 1933, Prix Goncourt.
- Le Temps du mépris, 1935
- L'Espoir, 1937
- Espoir, sierra de Teruel, 1938
- Le Démon de l'Absolu, 1946
- Esquisse d'une psychologie du cinéma, 1946
- Psychologie de l'Art (tair cyfrol) 1947-1948-1950
- Les Voix du silence, 1951
- L'Homme précaire et la littérature, 1977 (cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth)