Rhestr Ymerodron Bysantaidd
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Ymerawdwr Bysantaidd)
Dyma Restr Ymerodron Bysantaidd.
Sylwch: Mae'n anodd dweud pryd daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr Diocletian yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn 284.
Mae sawl ymgeisydd am yr anrhydedd o fod yr ymerodr Bysantaidd "cyntaf".
- Cystennin I (yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y brifddinas i Gaergystennin)
- Valens. Brwydr Adrianople (378) yw un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau yr Oesoedd Canol.
- Mae Arcadius (fel Theodosius I) yn cael ei ystyried fel ymerodr olaf yr Ymerodraeth Rufeinig unedig, a Zeno I (fel yr ymerodr gorllewinol olaf).
- Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth wedi ddechrau mor hwyr ag yn oes Heraclius (a wnaeth yr iaith Roeg yn iaith swyddogol), ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfri o'r diwygiad ariannol Anastasius I yn 498. Wrth gwrs, roedd dinesyddion yr ymerodraeth yn dal i alw eu hymerodraeth yn Rhufeinig tan 1453.
Brenhinllin Theodosius
[golygu | golygu cod]- Valens (328-378 OC), rheolodd 364 - 378
- Theodosius I (Theodosius Fawr) (346-395), rheolodd 379 - 395
- Arcadius (377-408), rheolodd 395 - 408
- Theodosius II (401-450), rheolodd 408 - 450
- Marcianus (392-457), rheolodd 450 - 457
- Leo I (Leo Fawr) (401-474), rheolodd 457 - 474
- Leo II (467-474), rheolodd 474
- Zeno Tarasius (425-491), rheolodd 474 - 491
- Basiliscus (ymerodr mewn gwrthwynebiad) (???-476), rheolodd 475 - 476
- Anastasius I (430-518), rheolodd 491 - 518
Brenhinllin y Justiniaid
[golygu | golygu cod]- Justinus I Mawr (450-527), rheolodd 518 - 527
- Justinianus I Mawr (482-565), rheolodd 527 - 565
- Justinus II (520-578), rheolodd 565 - 578
- Tiberius II Cystennin (540-582), rheolodd 578 - 582
- Mauricius (539-602), rheolodd 582 - 602
- Phocas y Gormeswr (???-610), rheolodd 602 - 610
Brenhinllin Heraclius
[golygu | golygu cod]- Heraclius (575-641, rheolodd 610 - 641
- Cystennin III Heraclius (612-641), rheolodd 641
- Heraclonas (626-641), rheolodd 641
- Constans II Heraclius Pogonatus (y Barfog) (630-668), rheolodd 641 - 668
- Cystennin IV (649-685), rheolodd 668 - 685
- Justinian II Rhinotmetus (y Trwyn-hollt) (668-711), rheolodd 685 - 695
- Leontius (m. 706), rheolodd 695 - 698
- Tiberius III Apsimar (m. 706), rheolodd 698 - 705
- Justinian II, Rhinotmetus, adferwyd 705 - 711
- Philippicus Bardanes (m. 713), rheolodd 711 - 713
- Anastasius II (m. 721), rheolodd Artemius, 713 - 715
- Theodosius III (m. ar ôl 717), rheolodd 715 - 717
Brenhinllin yr Isauriaid
[golygu | golygu cod]- Leo III yr Isaurydd (675-741), rheolodd 717 - 741
- Cystennin V Copronymus (718-745), rheolodd 741
- Artabasdus (???–???), rheolodd 741 - 743
- Cystennin V Copronymus, adferwyd 743 - 775
- Leo IV y Chasar (750-780), rheolodd 775 - 780
- Cystennin VI y Dall (771-797), rheolodd 780 - 797
- Irene (ymerodres) (755-803), rheolodd 797 - 802
- Nicephorus I (750–811), rheolodd 802 - 811
- Stauracius (m. 812), rheolodd 811
- Mihangel I Rhangabe (m. 844), rheolodd 811 - 813
- Leo V yr Armenwr (775-820), rheolodd 813 - 820
Brenhinllin yr Amoriaid (Phrygiaid)
[golygu | golygu cod]- Mihangel II yr Amorwr (770-829), rheolodd 820 - 829
- Theophilus II (813-842), rheolodd 829 - 842
- Mihangel III y Meddwyn (840-867), rheolodd 842 - 867
Brenhinllin y Macedoniaid
[golygu | golygu cod]- Basileios I y Macedonwr (811-886), rheolodd 867 - 886
- Leo VI y Call (866-912), rheolodd 886 - 912
- Alexander III (870-913), rheolodd 912 - 913
- Constantine VII Porphyrogenitus (905-959), rheolodd 913 - 959
- Romanos I Lekapenos (870-948), rheolodd yn gyd ymerodr 919 - 944
- Romanos II Porphyrogentius (939-963), rheolodd 959 - 963
- Nicephorus II Phocas (912-969), rheolodd 963 - 969
- Ioan I Tzimiskes (925-976), rheolodd 969 - 976
- Basileios II Bulgaroktonus "lladdwr-Bwlgariaid" (958-1025), rheolodd 976 - 1025
- Cystennin VIII Porphyrogentius (960-1028), rheolodd 1025 - 1028
- Romanos III Argyrus (968-1034), rheolodd 1028 - 1034
- Mihangel IV y Paphlagonwr (1010-1041), rheolodd 1034 - 1041
- Mihangel V Calaphates (1015-1042), rheolodd 1041 - 1042
- Zoë Porphyrogenita (978-1050, rhaglyw 1028 - 1050
- Cystennin IX Monomachus (1000-1054), rheolodd 1042 - 1054
- Theodora Porphyrogenita (980-1056), rheolodd 1054 - 1056
- Mihangel VI Stratioticus, rheolodd 1056 - 1057
Brenhinllin y Proto-Comnenaid
[golygu | golygu cod]- Isaac I Comnenus (1007-1060), rheolodd 1057 - 1059
- Cystennin X Ducas (1006-1067), rheolodd 1059 - 1067
- Mihangel VII Ducas (1050-1090), rheolodd 1067 - 1078
- Romanos IV Diogenes (1032-1072), rheolodd yn gyd-ymherodr 1067 - 1071
- Nicephorus III Botaniates (1001-1081), rheolodd 1078 - 1081
Brenhinllin Komnenos
[golygu | golygu cod]- Alexios I Komnenos (1057-1118), rheolodd 1081 - 1118
- Ioan II Komnenos (1087-1143), rheolodd 1118 - 1143
- Manuel I Komnenos (1118-1180), rheolodd 1143 - 1180
- Alexius II Comnenus (1169-1183), rheolodd 1180 - 1183
- Andronicus I Comnenus (1118-1185), rheolodd 1183 - 1185
Brenhinllin Angelus
[golygu | golygu cod]- Isaac II Angelus (1156-1204), rheolodd 1185 - 1195
- Alexius III Angelus (1153-1211), rheolodd 1195 - 1203
- Alexius IV Angelus (1182-1204), rheolodd 1203 - 1204
- Isaac II Angelus, adferwyd a rheolodd yn gyd-ymherodr 1203 - 1204
- Alexius V Ducas Murzuphlus "yr ael-gwalltog" (1140-1204), rheolodd 1204
Brenhinllin Laskaris (mewn alltudiaeth fel Ymerodraeth Nicaea)
[golygu | golygu cod]- Theodore I Doukas Laskaris (1174-1222), rheolodd 1204 - 1222
- Ioan III Doukas Vatatzes (1192-1254), rheolodd 1222 - 1254
- Theodore II Doukas Laskaris (1221-1258), rheolodd 1254 - 1258
- Ioan IV Doukas Laskaris (1250-1305), rheolodd 1258 - 1261
Brenhinllin Palaiologos
[golygu | golygu cod]- Mihangel VIII Palaiologos (1224-1282), rheolodd 1259–1282
- Andronikos II Palaiologos (1258-1332), rheolodd 1282–1328
- Mihangel IX Palaiologos (1277-1320), rheolodd yn gyd-ymherodr 1294–1320
- Andronikos III Palaiologos (1297-1341), rheolodd 1328–1341
- Ioan V Palaiologos (1332-1391), rheolodd 1341–1391
- Ioan VI Cantacuzenus (1295-1383), rheolodd yn gyd-ymherodr 1347–1354
- Andronikos IV Palaiologos (1348-1385), rheolodd fel trawsfeddiannwr 1376–1379
- Ioan VII Palaiologos (1370-1408), rheolodd fel trawsfeddiannwr 1390
- Manuel II Palaiologos (1350-1425), rheolodd 1391–1425
- Ioan VIII Palaiologos (1392-1448), rheolodd 1425–1448
- Cystennin XI Palaiologos (1405-1453), rheolodd 1449–1453