Ioan II Komnenos
| Ioan II Komnenos | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Medi 1087, 1088 Caergystennin |
| Bu farw | 8 Ebrill 1143 Cilicia |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd |
| Tad | Alexios I Komnenos |
| Mam | Irene Doukaina |
| Priod | Irene o Hwngari |
| Plant | Isaac Komnenos, Alexios Komnenos, Andronikos Komnenos, Manuel I Komnenos, Maria Komnene, Anna Komnene, Theodora Komnene, Eudokia Komnene, unknown daughter Comnene |
| Llinach | Komnenos |
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 1118 a 1143 oedd Ioan II Komnenos (Groeg: Ιωάννης Β΄ Κομνηνός; 13 Medi 1087 - 8 Ebrill 1143).
Roedd Ioan yn fab hynaf yr ymerawdwr Alexios I Komnenos ac Irene Doukaina. Yn ystod ei deyrnasiad, parhaodd Ioan waith ei dad i adfer yr ymerodraeth yn dilyn Brwydr Manzikert, hanner canrif ynghynt. Arweiniodd ymgyrchoedd yn erbyn y Pecheneg yn y Balcanau ac yn erbyn y Twrciaid yn Asia Leiaf. Llwyddodd i ad-ennill llawer o'r tiriogaethau a gollwyd i'r Twrciaid, gan ymestyn ffin yr ymerodraeth o Afon Maeander yn y gorllewin cyn belled a Cilicia a Tarsus yn y gorllewin. Arweiniodd fyddin Gristnogol oedd yn cynnwys gwladwriaethau'r croesgadwt i Balesteina, ond bu raid iddo encilio pan wrthododd y croesgadwyr ymladd.
Heblaw bod yn gadfridog galluog, roedd Ioan yn enwog am ei dduwioldeb ac am ei gyfiawnder.
| Rhagflaenydd: Alexios I Komnenos |
Ymerawdwr Bysantaidd 15 Awst 1118 – 8 Ebrill 1143 |
Olynydd: Manuel I Komnenos |