Marcianus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darn arian solidus yn dathlu buddugoliaethau Marcianus

Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain neu Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 450 a 457 oedd Flavius Marcianus (396 - Ionawr 457).

Ganed Marcianus yn Thrace neu Illyria, a gwasanaethodd yn y fyddin dan Ardaburius ac Aspar, gan ymladd yn erbyn y Persiaid a'r Fandaliaid. Yn 431, cymerwyd ef yn garcharor gan y Fandaliaid; rhyddhawyd ef wedi iddo dyngu llw o flaen y brenin Geiseric na fyddai'n ymladd yn erbyn y Fandaliaid eto.

Dyrchafwyd ef yn y fyddin, a phan fu farw yr ymerawdwr Theodosius II (408 - 450) dewiswyd ef yn ŵr gan chwaer ac olynydd yr ymerawdwr, Pulcheria.

Gwrthododd Marcianus dalu'r deyrnged yr oedd Theodosius II wedi bod yn ei dalu i'r Hyniaid dan Attila i'w cadw rhag ymosod ar yr ymerodraeth. Gan weld na allai gipio dinas Caergystennin ei hun, aeth Attila i ymgyrchu yn y gorllewin, Gâl yn 451 a'r Eidal yn 452. Llwyddodd Marcianus i amddiffyn y ffin yn y dwyrain hefyd, gan orchfygu ymosodiadau ar Syria, yr Aifft ac Armenia.

Cynhaliwyd Cyngor Chalcedon dan nawdd Marcianus yn ninas Chalcedon yng ngorllewin Asia Leiaf yn y flwyddyn 451. Dyma'r pedwaredd cyngor eglwysig i gael ei gynnal gan yr Eglwys gynnar. Ynddo comdemniwyd fel heresïau rai o'r dysgeidiau ynglŷn â Deuoliaeth - sy'n honni fod gan Iesu Grist ddwy natur, sef natur ddwyfol a natur ddynol - a chadarnheuwyd dysgeidiaeth Cyngor Nicaea a Chyngor Cyntaf Caergystennin. Ynyswyd rhai o'r eglwysi dwyreiniol, Eglwysi'r tri cyngor, mewn canlyniad, gan gynnwys yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft.