Heraclius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Heraclius a'i feibion ar solidus

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 610 a 641 oedd Heraclius, Groeg: Ηράκλειος, Hērakleios (c. 57511 Chwefror, 641.

Roedd ei dad, hefyd o'r enw Heraclius, wedi bod yn un o gadfridogion amlycaf yr ymerawdwr Mauricius, a daeth yn exarch talaith Affrica. Yn 608 dechreuodd y ddau Heraclius wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr Phocas, ac yn 610 daeth Heraclius y mab yn ymerawdwr, gan ladd Phocas a'i ddwylo ei hun.

Ymosododd y Persiaid ar Asia Leiaf, gan gipio Damascus a Jeriwsalem a dwyn y Wir Groes i Ctesiphon. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger Nineveh yn 627, a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn 629. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd Arabaidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn 636, tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn 634.

Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg Basileus (Βασιλεύς) yn lle'r teirl Lladin traddodiadol Augustus, a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y monoffisiaid a'r Chalcedoniaid, ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, monotheletiaeth, a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd yr Aifft iddynt yn 642.

Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711.