Mauricius
| Mauricius | |
|---|---|
| Ganwyd | Φλάβιος Μαυρίκιος Τιβέριος Αὔγουστος 539 Arabissus |
| Bu farw | 27 Tachwedd 602 Harbor of Eutropius |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
| Galwedigaeth | arweinydd milwrol, gwleidydd, ymerawdwr |
| Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, seneddwr Rhufeinig, ymerawdwr Rhufain, prif swyddog |
| Dydd gŵyl | 28 Tachwedd |
| Tad | Paul |
| Priod | Constantina |
| Plant | Theodosius, Tiberius, Maria, Paulus, Justin, Justinian, Anastasia, Cleopatra, Theoctista, Petrus |
| Perthnasau | Khosrow II |
| Llinach | llinach Iwstinian |

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 582 a 602 oedd Flavius Mauricius Tiberius Augustus (Groeg: Μαυρίκιος; 539 - 27 Tachwedd 602).
Roedd Mauricius yn frodor o Arabissus, Cappadocia, Profodd ei hun yn gadfridog galluog yn y brwydrau yn erbyn y Persiaid o 579 ymlaen, gan ennill buddugoliaeth fawr yn eu herbyn yn 581. Y flwyddyn wedyn, priododd ferch yn ymerawdwr, Constantina. Daeth yn ymerawdwr ar 13 Awst 582.
Eifeddodd yr ymerodraeth ar gyfnod anodd, gyda thrafferthion ariannol, yr angen i dalu arian i aral yr Afariaid rhag ymosod a't rhyfel yn erbyn Persia yn parhau. Gorchfygodd y Persiaid ger Dara yn 586. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu rhyfel catref ym Mhersia, a rhoddodd Mauricius fenthyg byddin i roi Chosroes II ar yr orsedd. Enillodd rannau o Mesopotamia ac Armenia yn gyfnewid am ei gymorth.
Wedi cael heddwch ar ei ffin ddwyreiniol, bu Mauricius yn ymladd yn y Balcanau, gan ad-ennill Singidunum oddi wrth yr Afariaid yn 592; ac enillodd ei gadfridog Priscus gyfres o fuddugoliaethau yn 593.
Yn 602, gorchymynodd yr ymerawdwr fod ei fyddin i dreulio'r gaeaf tu hwnt i Afon Donaw, a dechreuodd gwrthryfel dan arweiniad Phocas. Bu terfysg yng Nghaergystennin, a chymerwyd Mauricius yn garcharor wrth iddo geisio ffoi. Llofruddiwyd ef ar 27 Tachwedd, 602; dywedir i'w dri mab gael eu lladd o flaen ei lygaid yn gyntaf. Cyhoeddwyd Phocas yn ymerawdwr.