Anastasius I (ymerawdwr)
Anastasius I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 430 ![]() Durrës ![]() |
Bu farw | 9 Gorffennaf 518 ![]() Caergystennin ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, teyrn ![]() |
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, seneddwr Rhufeinig ![]() |
Priod | Ariadne ![]() |
Llinach | Llinach Leo ![]() |
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 491 a 518 oedd Flavius Anastasius neu Anastasius I, hefyd Anastasios I, Groeg: Αναστάσιος Α', (c. 430 - 9 Gorffennaf, 518).
Ganed Anastasius yn Dyrrhachium, rywbryd cyn 430. Roedd ganddo un llygad du ac un llygad glas, ac felly gelwid ef yn Dicorus (Groeg: Δίκορος).
Pan fu farw'r ymerawdwr Zeno yn 491, roedd Anastasius yn dal swydd silentiarius yn y llys. Dewisodd gweddw Zeno, yr ymerodres Ariadne, ei briodi, a thrwy hynny ei wneud yn ymerawdwr. Bu raid iddo ymladd yn erbyn cefnogwyr Longinus o Cardala, brawd Zeno, ac yn erbyn y Persiaid; wedi brwydro hir, gwnaed cytundeb heddwch a'r Persiaid yn 506. Roedd hefyd fygythiad yn y Balcanau oddi wrth y Slafiaid a'r Bwlgariaid, ac adeiladodd yr ymerawdwr Fur Anastasius i amddiffyn dinas Caergystennin.
O ran diwinyddiaeth, roedd Anastasius yn ddilynwr monoffisiaeth, a daeth yn amhoblogaidd yn rhai o rannau gorllewinol yr ymerodraeth o ganlyniad. Ail-drefnodd system ariannol yr ymerodraeth yn 498; dan y system newydd roedd tri darn aur gwahanol, y solidus, hanner solidus a thraean solidus, a phum darn arian copr, y follis a thannau o follis. Ar ddiwedd ei deyrnasiad, roedd trysorfa'r ymerodraeth yn gyfoethocach o 320,000 pwys o aur.
Nid oedd ganddo blant, ac olynwyd ef gan Justinus I.