Tiberius II
| Tiberius II | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 520 Thrace |
| Bu farw | 14 Awst 582 Caergystennin |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
| Galwedigaeth | llywodraethwr, gwleidydd |
| Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, seneddwr Rhufeinig |
| Tad | Unknown, Justinus II |
| Priod | Ino Anastasia |
| Plant | Unknown, Constantina, Charito |
| Llinach | llinach Iwstinian |

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 574 a 582 oedd Tiberius II Cystennin (Lladin: Flavius Tiberius Constantinus Augustus; c. 520 - 14 Awst 582).
Dyrchafwyd Tiberius, oedd yn gyfaill i'r ymerawdwr Justinus II, yn gyd-ymerawdwr yn 574 ar gyngor yr ymerodres Sophia pan ddatblygodd yr ymerawdwr afiechyd meddyliol. Bu'n rheoli'r ymerodraeth ar y cyd a hi hyd ar farwolaeth Justinus, pan ddaeth yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Gorchfygwyd y Persiaid yn Armenia gan ei gadfridog Mauricius, a diogelwyd tiriogaethau'r ymerodraeth yn Sbaen a Gogledd Affrica. Ni allodd atal y Slafiaid rhag ymosod ar y Balcanau, gan fod angen y fyddin i amddiffyn y ffin ddwyreiniol yn erbyn y Persiaid.
Enwodd ei fab-yng-nghyfraith, Mauricius, fel ei olynydd ychydig cyn ei farwolaeth yn 582; roedd sibrydion ei fod wedi ei wenwyno.