Arcadius

Oddi ar Wicipedia
Arcadius
Ganwyd1 Ionawr 377 Edit this on Wikidata
Hispania Edit this on Wikidata
Bu farwCaergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd, Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
Dydd gŵylAugust 27 Edit this on Wikidata
TadTheodosius I Edit this on Wikidata
MamAelia Flaccilla Edit this on Wikidata
PriodAelia Eudoxia Edit this on Wikidata
PlantPulcheria, Theodosius II, Arcadia, Flaccilla, Marina Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Theodosius Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain o 395 hyd 408 oedd Flavius Arcadius (377/3781 Mai 408).

Arcadius oedd mab hynaf yr ymerawdwr Theodosius I ac Aelia Flaccilla. Cyhoeddodd ei dad ef yn Augustus yn Ionawr 383, a chyhoeddwyd ei frawd iau, Honorius, yn Augustus hefyd yn 393.

Wedi dod yn ymerawdwr, roedd Arcadius dan reolaeth un o'i uchel swyddogion, Rufinus, tra'r oedd Honorius yn y gorllewin dan reolaeth Stilicho. Llofruddiwyd Rufinus yn 395, ond yna daeth Arcadius dan reolaeth Eutropius, nes i wraig Arcadius, Aelia Eudoxia, ei berswadio i ddiswyddo Eutropius yn 399. Gallodd Eudoxia hefyd ddiswyddo Ioan Chrysostom fel Patriarch Caergystennin yn 404, ond bu hi farw yr un flwyddyn.

Am y gweddill o'i fywyd, Anthemius, pennaeth Gard y Paretoriwm, oedd a'r gwir rym. Bu farw Arcadius yn 408, a dilynwyd ef gan ei fab Theodosius II.