Flavius Augustus Honorius
| Flavius Augustus Honorius | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Medi 384 Caergystennin, Istanbul |
| Bu farw | 15 Awst 423 Ravenna |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd, brenin neu frenhines |
| Swydd | Western Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
| Tad | Theodosius I |
| Mam | Aelia Flaccilla |
| Priod | Maria, Thermantia |
| Plant | Serena |
| Llinach | Llinach Theodosius |

Roedd Flavius Honorius (9 Medi 384 – 15 Awst 423) yn Ymerawdwr Rhufeinig (393–395) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab ieuengaf i Theodosius I a'i wraig gyntaf Aelia Flaccilla. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar 23 Ionawr 393, yn naw oed. Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd Arcadius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.
Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog Fandalaidd Stilicho. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y Fisigothiaid ar yr Eidal yn 402, symudodd Honorius y brifddinas i Ravenna. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn 408 cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn 410 cipiwyd Rhufain gan Alaric I, brenin y Fisigothiaid.
Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Theodosius II, ei gefnder Valentinian III, mab Galla Placidia a Constantius III, yn ymerawdwr yn y gorllewin.
| Rhagflaenydd: Theodosius I |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Valentinian III |