Wyrd Sisters
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Terry Pratchett |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 10 Tachwedd 1988 |
| Genre | ffantasi, humorous literature |
| Cyfres | Disgfyd, Witches |
| Cymeriadau | Granny Weatherwax, Nanny Ogg, Magrat Garlick |
| Prif bwnc | William Shakespeare |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01w471 |
Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Wyrd Sisters, a'r chweched nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1988. Mae'r llyfr yn ail-gyflwyno cymeriad Granny Weatherwax o nofel gynt yn y gyfres, Equal Rites.
Crynodeb Plot
[golygu | golygu cod]Mae'r plot yn barodi o Macbeth, mae Wyrd Sisters yn canolbwyntio ar dair gwrach: Granny Weatherwax; Nanny Ogg, matriarch llwyth mawr Ogg, sy'n berchen ar y gath fwyaf ddrygionus yn y byd, (Greebo); a Magrat Garlick, yr wrach iau, sy'n credu'n gadarn mewn gemwaith yr ocwlt, er nad ydyw'n gweithio.
Caiff y Brenin Verence I o Lancre ei lofruddio gan ei gefnder, Duke Felmet, a rhoddir coron a baban y brenin i'r tair gwrach gan forwyn tra'n dianc. Mae'r gwrachod yn rhoi'r plentyn a'r goron i grŵp o actorion sy'n teithio, gan gydnabod y byddai tynged yn dilyn ei gwrs yn y pen draw ac y buasai Tomjon yn tyfu fyny i drechu Duke Felmet.
Ond mae'r deyrnas yn flin ac nid yw eisiau aros 15 mlynedd, felly mae'r gwrachod yn ei symud ymlaen mewn amser. Yn y cyfamser, mae Duke Felmet wedi penderfynu cael drama wedi ei hysgrifennu a'i pherfformio sy'n ffafriol iddo ac mae'n anfon y cellweiriwr i Ankh-Morpork i recriwtio'r grŵp actio y mae Tomjon ynddi, sydd ddim yn teithio bellach.
Yr unig broblem ydy nad oes gan Tomjon yr awydd i fod yn frenin. Yn lwcus, mae'r cellweiriwr yn troi allan i fod yn frawd iddo felly daw ef yn frenin yn ei le.
Mae nifer o gyfeiriadau at Macbeth wedi eu plethu yn y stori, megis y Dug yn ceisio golchi'r gwaed o'i ddwylo trwy'r adeg gan ddefnyddio amryw o offerynnau megis gratur caws. Mae hefyd nifer o barodïau o Shakespeare megis The Dysk theater a Please Yourself.
Mae'r nofel wedi cael ei haddasu yn fersiwn wedi ei hanimeiddio a dramodiad pedwar rhan ar gyfer BBC Radio 4, yn ogystal ag addasiad drama gan Stephen Briggs.
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]| Iaith | Teitl | Ystyr | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| Bwlgareg | Посестрими в занаята | Chwiorydd yn y Grefft | |
| Croateg | Vile suđenice | Tylwythion Teg Ffawd | |
| Tsieceg | Soudné sestry | ||
| Iseldireg | De Plaagzusters | Y Chwiorydd Profocio | |
| Estoneg | Õed nõiduses | Sisters in Witchcraft | |
| Ffinneg | Noitasiskokset | Chwiorydd-gwrach | |
| Ffrangeg | Trois Sœurcières | Tri Chwiorydd-gwrach | Mae'r teitl yn chwarae ar eiriau: Mae Trois Sorcières yn cyfieithu fel "Tri Gwrach", ac mae Sœur yn golygu "chwaer". |
| Almaeneg | MacBest | MacBest | Ar ôl 'Mac Beth' Shakespeare |
| Groeg | Οι Στρίγκλες | Y Cecrennod | Trawslythreniad: I Striggles. Chwarae ar deitl drama William Shakespeare, The Taming of the Shrew |
| Hebraeg | אחיות הגורל | Chwiorydd Tynged | Trawslythreniad: Akhiot HaGoral |
| Hwngareg | Vészbanyák | ||
| Islandeg | Örlagasystur | ||
| Eidaleg | Sorellanza stregonesca | Chwaeroliaeth Hudol | |
| Norwyeg | Sære søstre | Chwiorydd Annaearol | |
| Pwyleg | Trzy Wiedźmy | Tri Gwrach | |
| Portiwgaleg | As Três Bruxas | Y Tri Gwrach | Portiwgal |
| Portiwgaleg | Estranhas Irmãs | Chwiorydd Annaearol | Brazil |
| Rwsieg | Вещие сестрички | Chwiorydd Proffwydol | |
| Serbeg | Sestre po metli | Chwiorydd mewn Ysgubellau | |
| Sbaeneg | Brujerías | Dewiniaeth | |
| Swedeg | Häxkonster | Dewiniaeth | |
| Thai | สามแม่มดอลเวง | Wyrd Sisters |