Hogfather
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Terry Pratchett |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1996 |
| Genre | ffantasi, humorous literature |
| Cyfres | Disgfyd, Death |
| Cymeriadau | Death, Susan Sto Helit, Albert, Auditors of Reality |
| Prif bwnc | Nadolig |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02p6g_ |

Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Hogfather, a'r 20fed nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1996.
Mae'r Hogfather hefyd yn gymeriad yn y llyfr, mae'n personoliad anthropomorphig, sy'n cynyrchioli rhywbeth tebyg i Siôn Corn. Mae'n rhoi dymuniadau i blant y Disgfyd ar Hogswatchnight (y 32ain o Ragfyr) ac yn dod ag anrhegion iddynt, mae hefyd yn ymddangos yn nofelau eraill y Disgfyd.
Mae'r llyfr yn ymdrin â natur crêd, yn arbennig y ffordd mae pobl yn teimlo'r angen i gredu mewn pethau bach lle nad oes unrhyw dystiolaeth, megis y "Hogfather" a "Tooth Fairie", er mwyn gallu credu mewn pethau mwy fel Cyfiawnder a Gobaith. Fel y disgrifia Pratchett, mae ffantasi yn feic ymarfer yr ymenydd; nid yw'n mynd i unman ond mae'n gwella'r cyhyrau y gall.
Addasiad teledu
[golygu | golygu cod]Addaswyd y nofel yn gyfres deledu dau ran Hogfather a'i ddarlledwyd ar 17 a 18 Rhagfyr 2006 (8:00 p.m.) ar Sky One yng ngwledydd Prydain. Ian Richardson oedd llais Death a chwaraeodd David Jason ei was, Albert. Chwaraeodd Marc Warren Mr. Teatime; Tony Robinson, y siopwr Vernon Crumley; a Rhodri Meilir, Bilious. Roedd gan Terry Pratchett gameo byr fel y gwneuthuriwr tegannau.
Darlledwyd gyntaf yn yr Unol Daleithiau ar 25 Tachwedd 2007 ar ION Television, yn Awstralia ar 23 a 24 Rhagfyr 2007 ar Channel Seven, ac yn yr Almaen ar 25 Rhagfyr 2007 ar ProSieben.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Anodiadau Hogfather[dolen farw]
- Dyfyniadau Hogfather Archifwyd 2008-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Synopsis Hogfather Archifwyd 2008-05-16 yn y Peiriant Wayback