William Williams (Creuddynfab)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Williams
William Williams (Creuddynfab, 1814-69) NLW3364533.jpg
Ffugenw Creuddynfab Edit this on Wikidata
Ganwyd 20 Awst 1814 Edit this on Wikidata
Y Creuddyn Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Awst 1869 Edit this on Wikidata (55 oed)
Llandudno Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth beirniad llenyddol, golygydd, Bardd, gweithiwr amaethyddol Edit this on Wikidata

Beirniad llenyddol a golygydd Cymraeg oedd William Williams (20 Awst 181426 Awst 1869), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Creuddynfab. Roedd yn frodor o ardal Y Creuddyn ger Llandudno yn yr hen Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy heddiw).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Creuddynfab yn 1814. Saer maen oedd ei dad. Ni chafodd ond ychydig o addysg a dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm yn y Creuddyn.[1] Yn y cyfnod 1845-1862 bu'n gweithio fel meistr stesion ar y rheilffordd newydd yn ardal y Pennines yng ngogledd Lloegr. Yno daeth yn gyfaill i'r bardd Ceiriog. Cafodd waith i Geiriog ar y rheilffordd a daeth yn ddylanwad mawr ar y bardd ieuanc, megis perthynas athro a disgybl.[2]

Pan ddychwelodd i Gymru daeth yn Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r swydd oherwydd afiechyd.[1] Yn 1864 daeth yn olygydd cylchgrawn Yr Eisteddfod.

Roedd cryn fri i Greuddynfab fel beirniad llenyddol yn ei gyfnod. Roedd o blaid y mesurau rhydd newydd yn enwedig y delyneg gan ymosod ar y beirdd Neo-Glasuraidd fel Caledfryn. Gosododd ei feirniadaeth yn ei unig gyhoeddiad, Y Barddoniadur Cymmreig; yn ôl Saunders Lewis, hwn oedd "un o'r ychydig bethau pwysig mewn beirniadaeth Gymraeg rhwng Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan."[1]

Bu farw yn 1869.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Saunders Lewis, Ceiriog (Gwasg Aberystwyth, 1929).