Neidio i'r cynnwys

William Alexander Madocks

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o William Madocks)
William Alexander Madocks
Ganwyd17 Mehefin 1773 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1828 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Charterhouse Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol, tirfeddiannwr, peiriannydd, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Gwleidydd a thirfeddiannwr o Sais oedd William Alexander Madocks (17 Mehefin 1773 – Medi 1828). Roedd yn aelod seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, o 1802 hyd at 1820. Ef oedd yn gyfrifol am ddraenio'r Traeth Mawr ac adeiladu'r morglawdd a adnabyddir fel "y Cob" rhwng Mhorthmadog er mwyn adennill tir amaethyddol o'r môr.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Madocks yn Llundain yn fab i John Madocks, cyfreithiwr a sgweiar Ystâd Fron Yw, Dinbych a Frances (née Whitechurch) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol bonedd Charterhouse o 1784 hyd iddo gael ei ddiarddel o'r ysgol ym 1789. Aeth i Brifysgol Eglwys Crist, Rhydychen ym 1790 gan raddio BA ym 1793 ac MA ym 1799. Roedd yn gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen rhwng 1793 a 1818.[2]

Wedi ymadael a'r brifysgol prynodd Madocks Ystâd Dolmelynllyn, Y Ganllwyd, Dolgellau. Wedi marwolaeth ei dad ym 1798 defnyddiodd ei etifeddiaeth i brynu ystâd mwy o faint, Plas Tan-yr-allt, Penmorfa.[3] Roedd rhan fawr o ystâd Tan-yr-allt yn dir corsiog oedd yn cael ei orchuddio gan y môr ar adeg llanw uchel. Ym 1800 adeiladodd clawdd ar draws y gors i gau'r môr allan gan lwyddo i droi 1082 acer o wlypdir yn dir sych. Roddodd hyn blas iddo am y posibiliadau o ennill rhagor o dir o'r môr. Ym 1807 gwnaeth gais llwyddiannus i'r Senedd i freinio iddo ef a'i etifeddion tywodydd y Traeth Mawr rhwng Borth-y-gest a phont Aberglaslyn. Adeiladodd morglawdd milltir o hyd, gyda ffordd ar ei ben (Cob Porthmadog, bellach) gan ennill 3042 acr arall o dir sych. Adeiladodd pentref newydd ger Penmorfa a'i enwi yn Nhremadog [4] er anrhydedd i'w hun.[5]

Ym 1820 dechreuodd Madocks i ddatblygu Porthmadog fel porthladd ar gyfer y diwydiant llechi yn yr ardal ac i fewnforio glo i ogledd Cymru. Bu hefyd yn ymwneud â sefydlu Rheilffordd Ffestiniog, ond oherwydd ymgais i agor rheilffordd ar hyd llwybr arall a gwrthwynebiadau yn y senedd a gan dirfeddianwyr eraill yr ardal ni chafodd byw i weld y rheilffordd yn agor.

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd Madocks yn aelod o Gymdeithas y Chwigiaid (rhagflaenwyr y Blaid Ryddfrydol a'r Democratiaid Rhyddfrydol). Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth Boston, Swydd Lincoln ym 1802 gan gadw'r sedd hyd 1820. Ar y pryd roedd ymladd etholiadau yn fusnes drud gan fod etholwyr yn disgwyl i ymgeiswyr bod y hael iddynt efo bwyd diod ac arian parod er mwyn sicrhau eu pleidlais. O herwydd gost ei brosiectau yng Nghymru roedd Madocks yn methu fforddio ymladd Boston eto. Safodd yn etholaeth ratach Chippenham gan gadw ei sedd hyd 1826.[6]

Ym 1818 priododd Madocks a Eliza Anne, merch ac etifedd Samuel Hughes, asiant tir Tregunter; Talgarth. Roedd hi'n weddw Roderick Gwynne o Buckland. Bu iddynt un ferch.[7]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Erbyn 1826 roedd sefyllfa ariannol Madocks yn fregus. Aeth ar daith i'r cyfandir i osgoi cael ei garcharu gan y sawl oedd yn ei herlyn am ddyledion. Ar ei daith byddai'n llythyru'n aml gyda'i asiantau a chyfreithwyr yng Nghymru gyda syniadau am sut i wella ei sefyllfa ariannol er mwyn iddo gael dychwelyd adre. Ond cyn cael cyfle i ddychwelyd bu farw ym Mharis yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Père Lachaise.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER 1773 a 1828; dyneiddiwr, yn caru'r ddrama a'r celfyddydau | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-29.
  2. "Madocks, William Alexander (1773–1828), property developer and politician". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/17761. Cyrchwyd 2020-03-29.
  3. "Plas Tan-Yr-Allt – Getting to know William Alexander Madocks". eviivo. 2017-04-19. Cyrchwyd 2020-03-29.
  4. "TREMADOG - Llais Y Wlad". Kenmuir Whitworth Douglas. 1877-11-30. Cyrchwyd 2020-03-29.
  5. "BBC - Wales History: William Madocks and the Cob at Porthmadog". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-03-29.
  6. "MADOCKS, William Alexander (1773-1828), of Tan-yr-allt and Morva Lodge, Caern and Tregunter Hall, Brec. | History of Parliament Online". www.histparl.ac.uk. Cyrchwyd 2020-03-29.
  7. "Old Brecknock Families - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1894-04-21. Cyrchwyd 2020-03-29.
  8. Dodd, AH. "A History of Caernarvonshire" Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (1967)