William Jones, Abergwaun

Oddi ar Wicipedia
William Jones, Abergwaun
Ganwyd10 Awst 1834 Edit this on Wikidata
Brymbo Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1895 Edit this on Wikidata
Abergwaun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Roedd Y Parchedig William Jones (10 Awst 183424 Mawrth 1895) yn Weinidog yr Efengyl yn enwad y Bedyddwyr Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones ym Mrymbo yn blentyn i John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor), crydd ac emynydd a Mary ei wraig.[2] Roedd yn frawd i'r bardd gwlad Noah T Jones a'r Parchedig John R Jones, Pontypridd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Jones ei yrfa fel mowldiwr yng ngwaith Haearn Brymbo.[3]

Derbyniwyd Jones yn aelod o eglwys y Bedyddwyr ym Mrymbo ar ddiwedd 1853. Dechreuodd bregethu ym 1855. Aeth i Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd ym 1858. Ym 1860 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Pen-y-fron, Sir y Fflint. Ar gychwyn 1864 derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys ym Margod, Sir Fynwy. Bu'n weinidog ym Margod am bum mlynedd cyn derbyn galwad i wasanaethu yn Hermon, Abergwaun ym 1869. Ym 1883 ymadawodd oddi yno, gan gymryd gofal Capel Cymraeg y Bedyddwyr yn Heol y Castell, Llundain. Ni fu ei arhosiad yn Llundain yn hir. Yn Ionawr 1885, dychwelodd i Hermon, Abergwaun, ac yno y bu am ddeng mlynedd olaf ei oes.[4]

Gwasanaethodd fel Cadeirydd cymanfa Penfro'r Bedyddwyr ym 1878, a llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig ym 1894.

Roedd Jones yn nodedig am natur athronyddol ei bregethu ac yn arbennig am gyflwyno dylanwad yr athronydd Georg Wilhelm Friedrich Hegel i'w enwad. Roedd syniad Hegel o ddelfrydiaeth yn ddylanwad mawr ar ei weinidogaeth.[5]

Roedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ‘Prometheus,’ ‘John Bunyan,’ a ‘Charles Dickens.

Golygwyd cyfrol o'i bregethau hyn gan T. T. Jones, Caerdydd: Yr Angel Mawr a'r Llyfr Bychan (Llangollen, 1899), a chyhoeddwyd pigion o'i ddywediadau fel Drychfeddyliau Detholedig (Llundain, 1907)..’

Teulu[golygu | golygu cod]

Roedd William Jones a Hannah ei wraig yn rhieni i dri mab

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Abergwaun yn 60 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Hermon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. JONES, WILLIAM (1834 - 1895), Abergwaun, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur
  2. Alltud Glyn Maelor – Y Bywgraffiadur
  3. Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1851 ar gyfer Wern, Brymbo, Sir Ddinbych. Cyfeirnod HO107/2502, Ffolio 282, Tudalen 24
  4. "Marwolaethau - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-04-04. Cyrchwyd 2020-02-10.
  5. Y Geninen cylchgrawn cenedlaethol - Y Parch William Jones Abergwaen. Cyf. XIV rhif. 4 - Hydref 1896